Cyfarwyddwr Addysg

8 Tachwedd 2019
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Cyngor Sir ein bod yn chwilio am Brif Swyddog Addysg a Chyfarwyddwr Addysg i arwain cynlluniau uchelgeisiol i wella a thrawsnewid gwasanaethau addysg i ddysgwyr ym Mhowys.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Caroline Turner: "Nid oeddem yn llwyddiannus yn ein hymgais cyntaf i lenwi'r swydd allweddol hon. 'Rydym yn chwilio am ymgeisydd eithriadol i'n harwain ar ein siwrna wella i gynnig gwasanaethau addysg o'r radd orau i genedlaethau'r dyfodol.
"Mae heriau anferthol yn wynebu addysg ym Mhowys sydd angen newidiadau sylweddol. Nid gwaith hawdd fydd arwain y broses honno, felly er i ni ddenu nifer o geisiadau, rydym wedi penderfynu peidio penodi ar hyn o bryd.
"Rydym yn ffodus bod gennym drefniadau dros dro cadarn yn eu lle, sydd yn gweithio'n dda wrth in I gwblhau ein Cynllun Gwella Ol-Arolwg. 'Rydym yn gwneud cynnydd o ran ymateb i adroddiad Estyn, wrth I ni gynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd y trefniadau dros dro yn parhau dros y misoedd nesaf wrth I ni ystyried ein anghenion ar gyfer y dyfodol."