Toglo gwelededd dewislen symudol

Cytundeb Cymorth Aelodau

 

Dyddiedig: Hydref 2019 

  • Cymorth TGCh i Aelodau 

Lauren Pollard, Llinell Gyntaf  TGCh - e-bost. lauren.pollard@powys.gov.uk / ffôn 01597 829557  

Crynodeb:  Man cyswllt ar gyfer anghenion TG

  • Pwynt Cyswllt - Pwynt cyswllt ar gyfer anghenion TG
  • Caledwedd - Cyflwyno gliniaduron main, ffonau clyfar a dyfeisiadau perthnasol eraill. Bydd ffonau clyfar yn cael eu cyflwyno i Aelodau sy'n dymuno'u defnyddio i'w galluogi i gyrraedd yr e-bost a'r calendr.  Mae'r Cyngor yn gweithio'n "ddigidol" ac yn hyrwyddo gwaith "di-bapur" lle bo modd. Er bod mod defnyddio argraffwyr yn Neuadd y Sir, gellir hefyd darparu argraffwyr yn ôl yr angen. 
  • Cymorth - Cymorth ar gyfer pob mater sy'n ymwneud â TG, h.y. e-bost, cyfrineiriau, problemau mewngofnodi, problemau gyda'r system.
  • Meddalwedd - Cyngor/canllawiau ar ddefnyddio meddalwedd, arsefydlu ac ati
  • Diogelwch - Cymorth â'r telerau cydymffurfio o ran materion diogelwch TGCh/diogelu data. 
  • Materion Polisi - Sicrhau bod yn cydymffurfiad â gofynion polisïau. 

 

Cynghorir Aelodau'n gryf i gysylltu â'r uned os ydynt yn cael profiad o broblemau TG nad ydynt yn gyfarwydd â hwy, yn hytrach na cheisio cywiro'r materion eu hunain. 

 

  • Cymorth 'Un Pwynt Cyswllt' i Aelodau 

Shane Thomas - Rheolwr Cymorth Aelodau -  e-bost. shanet@powys.gov.uk / ffôn 01597 826430

Mel Hardwick - Swyddog Cymorth Aelodau - e-bost melh@powys.gov.uk  / ffôn 01597 826160

Crynodeb:  Man cyswllt cymorth yr aelodau (pob mater)

  • Cymorth gyda gwaith achos - aelod ar gyfer materion a godwyd gan breswylwyr a byddant yn monitro ymateb (disgwylir ymatebion o fewn 10 diwrnod).  Ar adeg y cytundeb hwn, mae ymchwiliadau ar y gweill i ddatblygu system rheoli achosion er mwyn cefnogi aelodau i allu symud ymlaen â materion a godwyd gyda'r Cyngor gan breswylwyr.
  • Canllawiau Cyffredinol a Chefnogaeth - Mae'r Cyngor yn sefydliad mawr y mae angen iddo newid yn rheolaidd mewn ymateb i amgylchedd sy'n newid. Gall cymorth aelodau eich helpu i ddarganfod gyda phwy mae angen i chi siarad ynglyn â materion penodol, ac i wneud y cysylltiad, yn ogystal â dilyn y trywydd i weld beth yw hynt eich ymholiad. 
  • Galwadau Oriau Swyddfa/Lync/E-bost - Bydd rhywun yn y swyddfa fel arfer o 8 - 4.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener i gymryd negeseuon neu ymateb i negeseuon Lync. Yn aml y tu allan i'r oriau hynny, defnyddir e-bost.
  • Teipio - Gwneir hyn ar gais. 
  • Llungopïo - Gellir llungopïo ar sail ad hoc ac achlysurol gan ddefnyddio cyfleusterau'r Cyngor. Os oes angen llungopïo, mae'n rhaid i Aelodau dalu am hyn. Bydd gwybodaeth am wasanaethau yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth hwnnw. Bydd gwybodaeth ynglŷn â'r gwasanaethau yn cael eu darparu gan y gwasanaeth dan sylw.
  • Papur swyddfa - Nid yw'n cael ei ddarparu. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad di-bapur ac mae'n pennu disgwyliadau llymach ynglyn â hyn. Dulliau cysylltu di-bapur yw'r dewis.
  • Llythyron swyddogol - Gall aelodau ddefnyddio papur pennawd 'Powys' ar gyfer gohebiaeth ysgrifenedig swyddogol. Darperir templedi ac ati gan yr adran cymorth aelodaeth a fydd yn cefnogi'r gweithgaredd yma. 
  • Cardiau ymwêl - Os defnyddir logo Powys rhaid i Aelodau ddefnyddio'r templed a gytunwyd. Bydd aelodau'n talu am gynhyrchu cardiau ymweld. Gellir eu darparu, ond yr aelodau fydd yn gorfod talu'r gost. Maent yn hwylus i'w cyflwyno i bobl neu i'w postio. Maent yn cynnwys gwybodaeth am gysylltu'n lleol ar gyfer gwasanaethau perthnasol, h.y. Meddyg Teulu ac ati. 
  • Cardiau busnes - Os defnyddir logo Powys rhaid i Aelodau ddefnyddio'r templed a gytunwyd. Bydd aelodau'n talu am gynhyrchu cardiau busnes.   Maent yn hwylus i'w cyflwyno i mewn cyfarfodydd ac ati.
  • Trent/y Gyflogres (Treuliau) - Gall swyddogion helpu i brosesu hawliadau teithio a threulio sydd i'w gwneud gan ddefnyddio system Trent.
  • Trefniadau Cynadledda - Bwcio ar gyfer mynychu cynadleddau a'r llety cymwys cysylltiedig (Expotel). 
  • Cofrestr Diogelwch Bersonol - Gellir gwirio'r gofrestr gyfrinachol i sicrhau bod aelodau'n ymwybodol o unrhyw ragofalon y byddai angen iddynt eu cymryd pe byddent yn cyfarfod neu'n ymweld â thrigolion. Gall aelodau lofnodi fynd at y Gofrestr yma.
  • Gwefan - Mae gan aelodau ran benodol o'r wefan ar eu cyfer. Bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru a'r wefan yn cael ei rheoli gan yr adran cymorth aelodau.
  • Bwletin deufisol - Mae'r gwasanaethau yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaru a gwybodaeth berthnasol arall trwy fwletin deufisol.
  • Cyfeiriad post - Mae'r gwasanaeth cymorth aelodau yn gweithredu fel cyfeiriad post i'r aelodau. Mae aelod o'r gwasanaeth cymorth aelodau'n rheoli'r post fel y bo'n briodol, a byddant hwy yn ymgysylltu â'r aelodau i'r perwyl yma. 
  • Ymchwil/ Ymchwiliadau  - Gall swyddogion gynorthwyo aelodau o ran ymchwil ac ymchwiliadau i faterion sy'n ymwneud â busnes y Cyngor a busnes a fyddai'n gallu effeithio ar eu wardiau.

 

Cyfleusterau

  • Neuadd Sir Powys Llandrindod - Ardal adnoddau ddynodedig i Aelodau a'r Cabinet, gyda desgiau - gellir bwcio ystafelloedd eraill ar gais. 
  • Neuadd Brycheiniog Aberhonddu - Swyddfa'r Cadeirydd ac ystafelloedd y mae modd eu bwcio.
  • Neuadd Maldwyn Y Trallwng - Swyddfa'r Cadeirydd ac ystafelloedd y mae modd eu bwcio.
  • Ardaloedd Gweithio Hyblyg - Ar gael i bob safle ei ddefnyddio
  • Diogelwch - Ar gael i bob safle ei ddefnyddio
  • Cyfleusterau eraill - Mae'r Cyngor yn berchen ar amrediad o adeiladau y gellid eu defnyddio h.y. neuaddau pentref, lle mewn llyfrgell. Ffoniwch aelod o'r gwasanaeth cymorth aelodau i drafod hyn.

 

  • Cymorth Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu

Gwasanaethau Democrataidd:  

Steve Boyd, Rheolwr y Cabinet e-bost: steve.boyd@powys.gov.uk /  ffôn 01597 826374

Carol Johnson, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd e-bost: carol.johnson@powys.gov.uk / ffôn  01597 826206

Gwasanaethau Craffu:

Wyn Richards - Rheolwr Craffu a Phennaeth Gwasanaethau Craffu - e-bost: wyn.richards@powys.gov.uk / ffôn 01597 826375

Liz Patterson - Swyddog Craffu -  e-bost: elizabeth.patterson@powys.gov.uk / ffôn 01597 826980  a Lisa Richards - Swyddog Craffu -  e-bost: lisa.richards@powys.gov.uk -  ffôn 01597 826371

Crynodeb:  Cynorthwyo Aelodau a'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau a rhedeg ei broses ddemocrataidd

  • Code Ymddygiad - Cymorth wrth ystyried materion ymddygiad gan gynnwys cyngor ar ddatganiadau o fuddiant.
  • Cynefino - Cynnal achlysuron a chynorthwyo â sesiynau cynefino aelodau. 
  • Craffu - Cymorth i arwain adolygiadau craffu a rhedeg pwyllgorau craffu.
  • Cabinet - Cynorthwyo'r Cabinet i gyflawni ei ddyletswyddau. 
  • Rhaglenni Gwaith - Cynorthwyo i bennu rhaglenni gwaith/cynlluniau busnes y Pwyllgorau a chyflenwi'r rhwymedigaethau. 
  • Cyfarfodydd Aelodau - Cynorthwyo cyfarfodydd aelodau eraill ar lefel uchel lle bo'n briodol, h.y. cyflenwir ymrwymiadau cynllun Powys yn Un. 
  • Datblygu a Hyfforddi Aelodau - Trefnu a goruchwylio rhaglen datblygu a hyfforddi aelodau'r Cyngor.
  • Cyfarfodydd Pwyllgor - Cylchredeg papurau ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor, h.y. cyhoeddi'r agenda, y papurau a'r cofnodion yn amserol. 
  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth [FOI] - Rheoli ceisiadau FOI ar gyfer materion sy'n ymwneud â Chynghorwyr a'u busnes. 
  • Moderngov - Gweinyddu a goruchwylio system gwasanaethau democrataidd electronig Moderngov. Cynorthwyo aelodau i ddefnyddio system Moderngov.
  • Cwynion - Cynorthwyo'r broses o reoli cwynion yn erbyn aelodau/penderfyniadau pwyllgorau.
  • Presenoldeb - Cofnodi gwybodaeth am bresenoldeb.
  • Adroddiadau Blynyddol - Bydd adroddiadau blynyddol Aelodau'n cael eu cyhoeddi gan ddefnyddio'r templed y cytunwyd arno. Bydd swyddogion Gwasanaethau Democrataidd yn cynorthwyo Aelodau i ysgrifennu adroddiadau a byddant yn cyhoeddi'r rhain ar wefan y Cyngor.  Ni fyddwn yn darparu copïau caled. 

 

  • Cymorth Swyddfa Etholiadau 

Sandra Matthews - Prif Swyddog Etholiadau - e-bost: sandra.matthews@powys.gov.uk  / ffôn 01597 826747 

Joy Bartholomew - Uwch Swyddog Etholiadau - e-bost: joy.bartholomew@powys.gov.uk / ffôn 01597 826717 a Sian Lewis-Davies - Uwch Swyddog Etholiadau - e-bost: sian.lewis-davies@powys.gov.uk  / ffôn 01597 826717

Crynodeb:  Ymgymryd â swyddogaethau i gynorthwyo â gofynion statudol

  • Cofrestr Etholwyr - Casglu a chyhoeddi cofrestr etholiadau a chynnal a chadw'r rhestr o bleidleiswyr absennol. 
  • Etholiadau - Bod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiad â gofynion etholiadol a rhedeg etholiadau ac isetholiadau'r Cyngor Sir.
  • Trefniadau etholiadol - Bod yn gyfrifol am barhau i adolygu trefniadau etholiadol y Sir a cymateb i Adolygiadau Ffiniau sy'n effeithio ar y Sir.