Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr

12 Tachwedd 2019
Anogir cwmnïau o bob maint sy'n dymuno hyrwyddo'u gwasanaethau ac ymgysylltu â'r awdurdod lleol a phrynwyr lleol eraill i fynychu'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn fuan.
Ar ôl cynnal digwyddiadau llwyddiannus tebyg yn 2017 a 2018, mae Cyngor Sir Powys yn cynnal dau ddigwyddiad cwrdd â'r prynwr cysylltiedig ag adeiladu er mwyn ehangu a datblygu eu cadwyn gyflenwi.
Nod y digwyddiadau cwrdd â'r prynwr hyn yw dynodi a dangos pa waith fydd ar gael ar brosiectau ledled y sir, gan roi cyfle i'r contractwyr gwrdd â'r bobl iawn a'r potensial i ennill gwaith yn sgil hynny. Yn ogystal, bydd sefydliadau a all helpu contractwyr i baratoi ar gyfer tendro'n bresennol i drafod sut i gyflawni gofynion y tendr.
Bydd y digwyddiadau'n cael eu cynnal:
- Ddydd Mawrth 26 Tachwedd 9:30am- 12.30pm a 1.30pm-4pm. The Barn at Brynich, Brynich, Aberhonddu, Powys, LD3 7SH.
- Dydd Mercher 27 Tachwedd 9:30am-12.30 a 1.30m-4pm. Plas Dolerw, Ffordd Milffwrd, Y Drenewydd, Powys, SY16 2EH.
Bydd nifer o adrannau Cyngor Sir Powys yn bresennol yn y digwyddiadau, yn ogystal â phrynwyr eraill fel Heart of Wales Property Services ac Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd sefydliadau cymorth niferus gan gynnwys Busnes Cymru, CITB, Constructionline ac eraill hefyd yn bresennol.
Y dyddiad cau i gofrestru yw 19 Tachwedd 2019. Cysylltwch â Llinos Price ar 07870 724 968 neu e-bostiwch llinos@busnesa.com i gael rhagor o wybodaeth neu er mwyn cadw lle.