Angen llawer mwy o ofalwyr maeth

15th Tachwedd 2019
Yn galw ar drigolion sy'n byw yn ardal Machynlleth - mae plant lleol eich angen chi!
Mae angen mwy o ofalwyr maeth ar draws Powys, ond rydym yn annog pobl Machynlleth i gamu ymlaen a chynnig cartrefi diogel a chysurus i blant lleol.
Os ydych am wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal chi, galwch i weld y tîm maethu yn y sesiwn taro heibio yn yr Hen Siop, Bryn y Gog, Machynlleth, dydd Mawrth 26 Tachwedd, 10am - 1pm.
Gallwch helpu plant lleol trwy ddod yn ofalwr maeth llawn amser, neu gynnig cartref cariadus dros benwythnos neu wythnos i roi seibiant i ofalwyr a theuluoedd.
Ychwanegodd Jan Coles, Pennaeth Gwasanaethau Plant: "Trwy faethu gyda ni, byddwch yn darparu cartref cysurus i blant lleol yn eich ardal chi, a derbyn cymorth yn lleol. Bydd eich cefnogaeth chi'n gwneud gwahaniaeth go iawn i blant a phobl ifanc, felly rwy'n eich annog chi i alw am sgwrs gyda'n tîm proffesiynol a chyfeillgar."
Os oes gennych ddiddordeb ac am wybod mwy, ffoniwch ni ar 0800 22 30 627 www.powys.gov.uk/fostering, fostering@powys.gov.uk