Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Treth y Cyngor: Disgownt a gostyngiadau (pobl)

Mae Treth y Cyngor yn seiliedig ar 2 neu fwy o oedolion cymwys yn byw yn yr un cartref. 

Rhowch wybod i ni am unrhyw sefyllfa arall er mwyn gallu gwneud yn siŵr eich bod chi'n talu'r swm iawn o dreth y cyngor a ddim mwy.  Efallai y gallwch hawlio disgownt treth y cyngor.  Bydd y llyfryn defnyddiol iawn yn helpu chi ddeall a ydych chi'n gallu talu llai o dreth y cyngor.

Allwch chi ddim cael gostyngiad ar eich Treth y Cyngor dim ond oherwydd eich bod yn cael trafferth i'w dalu. Os ydych chi'n cael anhawster i dalu'ch Treth y Cyngor, gallwch siarad â ni i weld a allwn ni eich helpu.

Rhaid i chi ddweud wrthym ni ar unwaith os oes newid yn eich amgylchiadau. Gallai methu â gwneud hyn arwain at Orfodi Cosb Treth y Cyngor arnoch.  Os ydych chi'n anghytuno â'r gosb sy'n cael ei gorfodi arnoch, mae'n bosibl y byddwch yn awyddus i drafod hyn gyda ni yn gyntaf. Neu, gallwch wneud apêl uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru

Ar y dudalen hon:

 

Talu Treth y Cyngor a dim ond un oedolyn yn byw yn yr eiddo

Os mai chi yw'r unig oedolyn cymwys yn byw mewn eiddo, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn disgownt o 25%.  Gallai hyn ddigwydd oherwydd marwolaeth, gwahanu, ysgaru, neu hyd yn oed di ond oherwydd bod oedolyn arall wedi symud allan - neu unrhyw reswm arall.

Gwneud cais am ddisgownt Treth y Cyngor am fod yr unig oedolyn sy'n byw mewn eiddo yma Treth y Cyngor - Ffurflen Hawlio Disgownt Person Sengl

 

Os ydych chi'n gadael gofal

Rhywun sydd rhwng 18 a 25 oed ac yn unigolyn ifanc categori 3 yn ôl diffiniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Gwneud cais am ddisgownt i rywun sy'n gadael gofal yma Treth y Cyngor: Disgownt / Eithriadau - Pobl Sy'n Gadael Gofal

 

Treth y Cyngor i fyfyrwyr, prentisiaid a phobl dan hyfforddiant

Os ydych yn oedolyn sy'n fyfyriwr, yn brentis neu'n rhywun dan hyfforddiant, mae'n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor. Mae angen i chi ddweud wrthym eich bod yn fyfyriwr a ble rydych chi'n byw.

Rhowch wybod i ni os ydych chi'n fyfyriwr, prentis neu dan hyfforddiant yma Treth y Cyngor: Help i fyfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion

 

Pobl sydd yn yr ysbyty neu mewn gofal preswyl yn barhaol

Os oes oedolyn wedi symud allan o'ch ty i aros mewn ysbyty, cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio yn barhaol ni fydd yn gymwys i dalu Treth y Cyngor.

Rhowch wybod i ni pan fydd oedolyn mewn ysbyty neu ofal parhaol yma Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor

Os bydd eiddo'n wag yn barhaol, dylech

Rhowch wybod i ni os yw'r eiddo'n wag yma Hawlio Eithriad

 

Unigolyn ifanc yn troi'n 18 oed

Os oes unigolyn ifanc yn byw gartref sy'n troi'n 18 oed, mae'n atebol i dalu Treth y Cyngor. Os mai myfyriwr yw e, neu os ydych chi'n parhau i dderbyn budd-daliadau ar ei gyfer, yna ni fydd yn atebol i dalu Treth y Cyngor.

Rhowch wybod i ni pan fydd oedolyn ifanc yn 18 oed yma Mae rhywun yn eich cartref yn troi'n 18

 

Budd-dal Tai

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai, gallwch hawlio help tuag at Dreth y Cyngor (Gostyngiad), Prydau Ysgol am Ddim, a  Grantiau Dillad Ysgol ar yr un pryd.

Gwneud cais am fudd-dal tai yma Gwneud cais am fudd-daliadau

 

Pobl anabl

Efallai y gallwch hawlio gostyngiad os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi angen lle ychwanegol neu fod y defnydd o'r eiddo wedi'i newid neu'i addasu.

Mwy o wybodaeth yma am help gyda Threth y Cyngor i bobl ag anableddau Treth y Cyngor: Help i bobl ag anabledd neu namau

 

Pobl â nam meddyliol difrifol

Fe allai pobl â nam meddyliol difrifol (megis dementia) hawlio gostyngiad.

Mwy o wybodaeth yma am help gyda Threth y Cyngor i bobl ag amhariadau Treth y Cyngor: Help i bobl ag anabledd neu namau

 

Gofalwyr

Os ydych chi'n ofalwr sy'n byw yn yr un eiddo â'r sawl rydych yn gofalu amdano, mae'n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor.

Mwy o wybodaeth yma am help gyda Threth y Cyngor i ofalwyr Treth y Cyngor: Help i ofalwyr

 

Treth y Cyngor pan fydd rhywun wedi marw

Pan fydd oedolyn wedi marw, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith er mwyn i ni wneud yn siwr eich bod chi neu'r stad yn talu'r swm iawn o dreth y Cyngor a dim rhagor. Mae'n rhaid i chi hefyd gofrestru'r farwolaeth.

Rhowch wybod i'r Adran Treth y Cyngor am farwolaeth yma Mae rhywun wedi marw

 

Pobl yn y carchar neu garchariad cyfreithlon arall

Neu unrhyw le arall, nid yw'r unigolyn dan sylw yn gymwys i dalu Treth y Cyngor.

Rhowch wybod i'r Adran Treth y Cyngor pan fydd oedolyn wedi'i gadw'n gaeth yma Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor

 

Pobl mewn sefyllfaoedd penodol

Mae'n bosibl na fyddwch yn gymwys i dalu Treth y Cyngor os ydych chi'n:

  • aelodau (neu'n ddibynyddion) Pencadlysoedd Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn
  • aelodau o Gymunedau Crefyddol
  • aelodau (neu ddibynyddion) lluoedd sy'n ymweld
  • cymar (heb fod yn Brydeinig) i fyfyriwr
  • berchen ar fraint neu imiwnedd diplomyddol

Mwy o wybodaeth yma am y sefyllfaoedd penodol hyn Treth y Cyngor: Help i bobl mewn sefyllfaoedd penodol

 

Amgylchiadau unigol eithriadol

Os oes amgylchiadau personol eithriado nad oedd modd eu rhagweld yn berthnasol i chi, mae'n bosibl y gallech gael disgownt yn ôl disgresiwn. Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'r rheswm y mae eich amgylchiadau'n eithriadol.

Darllenwch y Fframwaith Disgownt Lleol (Adran 13A) yma Treth y Cyngor: Fframwaith Disgownt Lleol (Adran 13A)