Cyhoeddi oriau agor

18 Tachwedd 2019
Cyhoeddwyd oriau agor y Gaer, sef cartref newydd Llyfrgell Aberhonddu ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog, yn barod ar gyfer agoriad swyddogol y ganolfan ym mis Rhagfyr.
Bydd yr atyniad hwn yng nghanol y dref yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd am y tro cyntaf ddydd Iau 5 Rhagfyr ac mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd yr oriau agor fel a ganlyn:
- Dydd Llun - ar gau
- Dydd Mawrth - 9.30am-6.30pm
- Dydd Mercher - ar gau
- Dydd Iau - 9.30am - 5.00 pm
- Dydd Gwener - 9.30am - 5.00 pm
- Dydd Sadwrn - 10.00am - 4.00 pm
Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol: "Rydym wedi gwneud ein gorau glas i fod mor hyblyg â phosibl gyda'r oriau agor fel bod gymaint o bobl â phosibl yn gallu galw a mwynhau adnoddau amrywiol y Gaer. Mae pobl mewn gwaith, twristiaid, teuluoedd a phlant yn bwysig iawn, ac mae'n braf gallu agor am ddiwrnod cyfan ar ddydd Sadwrn i geisio rhoi'r cyfle i bawb ddod i'r llyfrgell, yr amgueddfa a'r oriel gelf."
Bydd y cyngor yn adolygu'r oriau agor a'r patrymau defnydd yn ystod 2020 i sicrhau eu bod yn ateb anghenion y gymuned lle'n bosibl o fewn y cyllidebau sydd ar gael. Efallai bydd partneriaid yn gallu ehangu'r cynnig cyffrous, a bydd cyfle i ddatgan diddordeb yn y llefydd sydd ar gael i'w rhentu yn y Gaer tan 31/1/2020.
Mae tîm cryf o wirfoddolwyr eisoes mewn lle ac yn barod i helpu, a bydd y rhaglen wirfoddoli'n cael ei datblygu ymhellach y flwyddyn nesaf.
Mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda ar arddangosfa gyntaf y Gaer a bydd manylion yr arddangosfa dyfrlliw cyntaf yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn. Bydd digwyddiadau arferol y llyfrgell hefyd yn ailgychwyn ar ôl gorffen symud.
Dros y cyfnod y bydd llyfrgell Aberhonddu ar gau, rydym yn atgoffa darllenwyr y bydd llyfrau oedd i'w dychwelyd yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig tan 6 Ionawr 2020, felly 'does dim rhaid i chi boeni am ddychwelyd llyfrau'n hwyr a chael dirwy.
Bydd desg wybodaeth dros dro y llyfrgell yn cael ei sefydlu yn Neuadd Brycheiniog ar ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 9.30am - 4pm. Bydd staff wrth law i helpu gyda phethau megis adnewyddu a gwneud cais am bas bws, bathodynnau glas, talu biliau'r cyngor a gwirio dogfennau.
Bydd unrhyw un sy'n chwilio am waith yn gallu defnyddio cyfrifiaduron ac argraffwyr yng Nghanolfan Byd Gwaith Aberhonddu.
Bydd llyfrgelloedd eraill De Powys ar agor fel arfer dros y cyfnod hwn. Am fanylion oriau agor a manylion cyswllt ewch i wefan Cyngor Sir Powys. https://cy.powys.gov.uk/article/2871/Dod-o-hyd-ir-llyfrgell-agosaf
Gallwch gyrraedd dewis eang o e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau ac e-gomics ar-lein 24 awr y dydd, https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/powys_en a chatalog y llyfrgell lle gallwch archebu llyfrau newydd i'w casglu o'r Gaer pan fydd y llyfrgell, yr amgueddfa a'r oriel gelf newydd wedi agor.