Staff arlwyo a glanhau ysgolion i glywed am Anghenion Dysgu Ychwanegol

19 Tachwedd 2019
Bydd staff arlwyo a glanhau mewn ysgolion y sir yn derbyn sesiynau ymwybyddiaeth am anghenion dysgu ychwanegol, dywedodd Cyngor Sir Powys.
Mae gwasanaethau Addysg ac Arlwyo a Glanhau wedi bod yn cydweithio a byddan nhw'n cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth i'r holl staff arlwyo a glanhau mewn ysgolion.
Mae'r sgyrsiau hyn yn deillio o awgrymiadau a wnaed gan rieni a gofalwyr yn ystod digwyddiadau Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gynharach eleni.
Ynghyd â'r gwaith hwn i godi ymwybyddiaeth, mae bwydlenni ysgolion yn cael eu diweddaru gyda thestun hawdd ei ddarllen a disgrifiadau hawdd o'r bwyd. Bydd y bwydlenni newydd yn cael eu defnyddio o fis Chwefror ymlaen mewn ysgolion ar draws Powys.
Dywedodd Lynette Lovell, y Pennaeth Addysg Dros Dro: "Dywedodd rhieni a gofalwyr ei fod yn bwysig bod pob aelod staff mewn ysgolion yn deall anghenion addysgol arbennig / anghenion dysgu ychwanegol, a hoffwn ddiolch iddynt am yr awgrym hwn.
"Rydym wedi gweithio'n agos â'r staff arlwyo a glanhau i gyflwyno'r awgrym pwysig hwn, a byddwn yn arwain ar y sgyrsiau hyn i'r staff arlwyo a glanhau yn ein hysgolion.
Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol: "Bydd y sgyrsiau hyn i godi ymwybyddiaeth o fantais fawr i'n staff arlwyo a glanhau i'w helpu i ddeall disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Dyma enghraifft dda o wasanaethau'r cyngor yn dod at ei gilydd i wella bywydau disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol."