Cystadleuaeth Her Busnes yn agored i fyfyrwyr o Bowys

19 Tachwedd 2019
Fel rhan o gystadleuaeth, mae myfyrwyr yn cael eu herio i ystyried pa fusnesau yr hoffent eu sefydlu.
Mae Llwybrau Positif Powys, y grŵp sy'n trefnu Gŵyl Gyrfaoedd Powys am i ddysgwyr ar hyd a lled y sir gymryd rhan yn eu cystadleuaeth busnes.
Her y gystadleuaeth, sydd wedi'i hanelu at fyfyrwyr rhwng 14 a 19 oed, yw 'Pa fusnes fyddech chi'n ei sefydlu ym Mhowys yn 2020 a pham?'
Bydd y buddugol yn ennill tocynnau gwerth £200, trwy garedigrwydd Weales Wheels o Landdewi a What About Me? Training Ltd.
Dywedodd Jackie Parker, Cadeirydd Grŵp Llwybrau Positif Powys: "mae'r gystadleuaeth ar agor i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed yn yr ysgol uwchradd neu ysgol arbennig, yn ogystal â myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC a dysgwyr eraill.
"Yn ogystal â'r tocynnau, bydd y cystadleuydd buddugol yn ennill tlws a thystysgrif a'r cyfle i wneud cyflwyniad i Dîm Rheolwyr Cyngor Sir Powys. Felly beth am roi cynnig arni? Bydd yn hwyl, a gall y gwaith gyfrif tuag at eich Fagloriaeth Gymreig."
Rhaid i'r cynigion fod ar ffurf cyflwyniad a rhaid iddynt fynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:
- Pwy fyddai eich cwsmeriaid?
- Sut fyddech chi'n hyrwyddo eich busnes?
- Pe byddai angen staff arnoch, sut fyddech chi'n eu recriwtio nhw?
- Beth fyddai'r prif heriau i'ch busnes?
- Sut fyddech chi'n goresgyn y rhain?
Yna bydd tîm Llwybrau Positif Powys yn dewis rhestr fer o dri chynnig. Gwahoddir y cystadleuwyr a luniodd y rhain i fynychu beirniadaeth derfynol yn Neuadd y Sir, Llandrindod yn ystod wythnos dydd Llun 10 Chwefror 2020.
Gofynnir i'r timau ar y rhestr fer wneud cyflwyniad i'r panel beirniaid ac yna ateb cwestiynau ar gynnwys y cyflwyniad am hyd at 20 munud. Bydd y tri chyflwyniad gorau yn cAael eu cyhoeddi yng Ngŵyl Gyrfaoedd Powys ddydd Mercher 4 Mawrth 2020ac yn derbyn eu gwobrau yno.
I gynnig yn y gystadleuaeth, bydd angen i chi anfon cyflwyniad 10-munud (uchafswm) i ateb yr her uchod.
Gall y cynigion fod ar unrhyw fformat wedi'i recordio (awdio/fideo/cyflwyniad Powerpoint/ Prezi) ond bydd angen iddynt gael eu hanfon trwy'r e-bost at jayne.bevan@powys.gov.uk i gyrraedd dim hwyrach na 5pm ddydd Gwener, 31 Ionawr, 2020.
Does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hyn gan fod modd i bob cynnig fod â hyd at bump o ddysgwyr yn y 'tîm'.