Adroddiad Mabwysiadau
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y Cwrs: Bond Solon
Bydd mabwysiadu yn cael effaith arwyddocaol ar blentyn. Mae'r gyfraith mabwysiadu yn eithriadol o gymhleth, a bydd nifer o weithwyr cymdeithasol yn cael anhawster yn ei dehongli a'i chymhwyso'n gywir.
Nod y Cwrs
Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i sicrhau fod gweithwyr cymdeithasol yn derbyn y wybodaeth weithiol iawn ar y fframwaith cyfreithiol perthnasol ar bob llwybr mabwysiadu gan gynnwys gorchmynion lleoli, Coram, a cheisiadau preifat. Bydd y dirprwyon yn dysgu'r sgiliau i gwblhau taflen mantolen hyd at arfer gorau (yn dilyn Re B-S) lle mai mabwysiadu yw'r dewis cywir a phriodol i'r plentyn. Bydd dirprwyon yn ystyried eu cyfrifoldebau i olrhain rhieni a theulu i asesu dichonolrwydd cyn symud ymlaen gyda chais tuag at fabwysiadu. Fe fyddant yn archwilio'r buddion Gwarchodaeth Arbennig yn erbyn Mabwysiadu i'r plant a'r teulu biolegol.
Prif Ddeilliannau Dysgu
· Cyflwyno cyngor, cyfarwyddyd a chymorth i ddarpar ymgeiswyr mabwysiadu posibl ar sut y gallent symud ymlaen gyda chais mabwysiadu a lle bo angen caniatâd gan y Llys
· Ysgrifennu adroddiadau Rheol 14 Asiantaeth Mabwysiadu Broffesiynol, tra'n bod yn wyliadwrus am reolau cyfrinachedd, golygu ac anomeiddio, a chyfrifoldeb rhiant
· Drafftio rhestr wirio llesiant Deddf Plant a Mabwysiadu 2002 gyda hyder
· Deall y fframwaith cyfreithiol am ganiatâd i wrthwynebu gorchymyn mabwysiadu a'r prawf cyfredol yn y broses apeliadau
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
28 Tachwedd 2019 | Canolfan CFfI Sir Faesyfed, 5 Stad Ddiwydiannol Ffordd Ddole, Llandrindod |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Contacts
Feedback about a page here