Rhagoriaeth wrth Ysgrifennu Adroddiadau
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y Cwrs: Bond Solon
Yn aml, pan fo tystiolaeth ysgrifenedig ddim yn glir a/neu wedi'i strwythuro'n wael, gellir colli gwybodaeth yn hawdd neu mae'n gamarweiniol. Mae hyn yn creu oedi ac amheuaeth a all adael y gweithiwr cymdeithasol a'r Awdurdod Lleol yn agored i ymosodiad a her yn ystod gweithdrefnau cyfreithiol.
Mae'n hanfodol fod yr asesiadau a/neu adroddiadau a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn cael ei gyflawni mewn dull amserol i ganiatáu cyflwyno gwybodaeth briodol cyn gweithdrefnau cyfreithiol cyhoeddus.
Nod y Cwrs
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i alluogi gweithwyr cymdeithasol i lunio adroddiadau a datganiadau clir, cryno sydd wedi'u strwythuro'n dda ac yn cydymffurfio â'r hyn sy'n ofynnol mewn llysoedd i gynorthwyo'r llys neu'r tribiwnlys yn well wrth wneud y penderfyniad. Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio er mwyn amddiffyn yr awdur rhag ymosodiad wrth gael ei groesholi ac i hyrwyddo'r hyn sydd yn niddordebau gorau'r plentyn. Bydd dirprwyon yn ystyried arddull, ffurf a chynnwys datganiadau ac adroddiadau trwy edrych ar ffynhonnell y wybodaeth sydd i'w chynnwys a'i bwysoli. Fe fyddant yn dysgu sut i wahaniaethu rhwng ffaith, casgliadau a safbwyntiau. Bydd y dirprwyon hefyd yn edrych ar sut i gwblhau templedi SWET yn hyderus ac yn effeithiol.
Prif Ddeilliannau Dysgu
· Casglu gwybodaeth yn fwy effeithiol trwy wybod sut i'w chynnwys o fewn tystiolaeth ysgrifenedig
· Gallu defnyddio cofnodion fel eu prif ffynonellau gwybodaeth
· Defnyddio cynllun, ffurf ac arddull briodol
· Dynodi'r materion, ffeithiau ac opsiynau
· Datblygu llygad gwrthrychol a beirniadol o ran gwybodaeth ysgrifenedig
· Defnyddio eu dogfennau ysgrifenedig i gefnogi eu hunain wrth roi tystiolaeth mewn llys
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
12 Chwefror 2020 | Cartrefi Cymru, Llandrindod |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau