Sgiliau Llys a Rhoi Tystiolaeth
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y cwrs: Bond Solon
Gall mynychu llys fod yn un o'r rhannau mwyaf ofnus a gofidus o fewn rôl y gweithiwr cymdeithasol. Gellir bwrw amheuaeth ar eu datganiad, adroddiad asesu, nodiadau, cofnodion, dull archwilio, cymwysterau a hygrededd cyffredinol fel tyst. Mae'n hanfodol felly fod gweithwyr cymdeithasol yn derbyn y sgiliau i allu rhoi cyfrif hyderus a dibynadwy o flwch y tyst.
Nod y Cwrs
Rhennir y diwrnod yn ddwy ran. Bwriad sesiwn y bore yw rhesymoli'r broses o roi tystiolaeth. Fe fyddant yn ystyried y technegau a ddefnyddir gan gyfreithwyr i ddifrïo gweithwyr cymdeithasol, ac yn bwysicaf, sut i ymateb yn briodol i'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau pan ddefnyddir y technegau hyn ac i barhau mewn rheolaeth fel y gallant gynorthwyo'r llys yn well.
Yn y prynhawn, rydym wedi sefydlu llys ffug lle y bydd dirprwyon yn cael defnyddio'r technegau y maent wedi'u dysgu yn y bore a phrofi cael eu croesholi. Bydd dirprwyon yn derbyn adborth ar eu perfformiad a fydd yn atgyfnerthu arfer ac a fydd yn adeiladol hefyd ar feysydd i'w gwella.
Prif Ddeilliannau Dysgu
· Adnabod sut mae'r system wrthwynebus yn gweithio
· Paratoi'n gywir i roi tystiolaeth ar lafar
· Gwneud defnydd priodol o dystiolaeth, dogfennau a chofnodion ategol tra'n cael eu croesholi
· Gwahaniaethu rhwng tystiolaeth sy'n seiliedig ar farn fel 'tyst arbenigol' a rhoi tystiolaeth broffesiynol
· Rhoi tystiolaeth glir a hyderus i'r llys er gwaetha llymder y croesholi
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
13 Chwefror 2020 | Cartrefi Cymru, Uned 27/Stad Ddiwydiannol Ffordd Ddole, Llandrindod |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau