Ymateb da i Arolwg ADY

26 Tachwedd 2019
Ymatebodd mwy na 250 o rieni / gwarcheidwaid plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i arolwg diweddar gan Gyngor Sir Powys yn cynnig eu barn am y gwasanaethau a ddarperir i'r bobl ifanc.
Roedd llawer o ymatebwyr i'r arolwg yn teimlo bod y gwasanaethau a ddarperir yn gyffredinol, naill ai'n 'Dda Iawn' neu'n 'Dda' er eu bod yn teimlo bod angen gwella rhai meysydd.
Derbyniwyd ymatebion yn ymwneud â phlant mewn 58 o ysgolion cynradd, uwchradd neu arbennig neu mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Roedd rhai ymatebion a dderbyniwyd yn ymwneud â phlant sy'n cael eu haddysgu gartref.
Dyma rai o benawdau'r arolwg:
- Roedd 72% o'r ymatebwyr yn teimlo bod eu hysgol yn darparu ar gyfer anghenion eu plant
- Roedd 79% o'r ymatebwyr yn teimlo bod eu plant yn cael gwaith sy'n briodol i'w gallu
- Roedd 68% o ymatebwyr yn teimlo bod gan yr ysgol ddisgwyliadau uchel o'u plant
- Roedd 69% o ymatebwyr yn teimlo bod eu plant yn gwybod at bwy i droi pe bai ef/hi angen help
Fodd bynnag:
- Dim ond 48% o'r ymatebwyr oedd yn teimlo bod eu plant yn cael gwaith cartref priodol ar gyfer eu hanghenion
- Dim ond 44% o'r ymatebwyr oedd yn teimlo bod plant gydag ADY yn gwneud cynnydd da yn yr ysgol
- Roedd ychydig dros yr hanner (53%) yn teimlo bod yr ysgol yn rhoi gwybod iddyn nhw am unrhyw gymorth ychwanegol mae eu plant yn eu derbyn.
- Roedd nifer tebyg (52%) yn ymwybodol o bolisi ADY eu hysgol
Ymhlith y sylwadau a dderbyniwyd roedd canmoliaeth i gefnogaeth yr ysgolion i'w plant ynghyd â galwadau am gyfeirio mwy o arian at y gwasanaeth.
Dywedodd Lynette Lovell, Pennaeth Addysg Dros Dro y cyngor: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein harolwg yn gynharach eleni.
"Mae'n braf gweld bod y mwyafrif o'r rhai a ymatebodd wedi dweud bod y gwasanaethau ADY rydyn ni'n eu darparu naill ai'n dda neu'n dda iawn. Fodd bynnag, nododd Estyn yn ein hadroddiad diweddar fod angen gwella rhannau o'r gwasanaeth.
"Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i wella gwasanaethau i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol."