Y Cyngor yn sefyll lan i gam-drin domestig

Tachwedd 27, 2019
I nodi Diwrnod Rhuban Gwyn yr wythnos hon, bu staff a chynghorwyr Cyngor Sir Powys led led y sir yn mynd am dro amser cinio.
Cynhaliwyd y teithiau cerdded yn Y Drenewydd, Aberhonddu, Llandrindod ac yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd i dynnu sylw at effaith cam-drin domestig, a cherddodd dwsinau o bobl.
Fe'u trefnwyd ar y cyd â Calan DVS, Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn, Cymorth i Ferched Cymru, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed Powys.
Ali Bulman yw Cyfarwyddwr Corfforaethol (Plant a Theuluoedd) y Cyngor, a bu'n cerdded yn y Ffair Aeaf. Dywedodd: "Fe drefnon ni'r digwyddiadau hyn i annog pobl i ddangos eu cefnogaeth i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig ac i dynnu sylw at y broblem hon.
"Mae pobl sy'n dioddef cam-drin domestig yn dod o bob cefndir - o bob oedran, dosbarth cymdeithasol, rhyw a rhywioldeb - felly byddem yn annog unrhyw un sy'n dioddef hwn i beidio cadw'n ddistaw am y peth. Cysylltwch â ni neu un o'n partneriaid; gallwn ni helpu," dywedodd Ali.
Gallwch gysylltu â'r canlynol (a chael cyngor ganddynt hefyd):
- Cyngor Sir Powys trwy alw 0345 602 7050 neu fynd i https://cy.powys.gov.uk/article/1896/Rhoi-gwybod-am-gamdrin-oedolion neu https://cy.powys.gov.uk/article/1525/Rhoi-gwybod-am-gam-drin-plant
- Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn trwy alw 01686 629114 neu fynd i http://www.familycrisis.co.uk/
- Cymorth i Ferched Cymru trwy alw 0808 8010 800 neu fynd i https://www.welshwomensaid.org.uk/
- Calan DVS trwy alw 01874 625146 neu fynd i http://www.calandvs.org.uk/
- Heddlu Dyfed Powys trwy alw 101 (neu 999 mewn argyfwng) neu fynd i https://www.dyfed-powys.police.uk a chwilio am 'gam-drin domestig'.