Codi pont newydd ger y Lamb & Flag

13th Rhagfyr 2019
Codwyd pont newydd bwa 20m mewn cymuned yn ne Powys, i alluogi'r trigolion i deithio'n rhwyddach.
Cyngor Sir Powys oedd yn gyfrifol am y gwaith a wnaed ar y bont newydd, sy'n croesi Afon Tawe ger y Lamb & Flag yn Aber-craf. Mae'n disodli pont dros dro a godwyd yn 1980 i gynnal cerbydau 3.5 tunnell wedi i lifogydd ddifrodi'r bont wreiddiol.
Mae'r bont yn gwasanaethu chwe eiddo ar lan ddeheuol Afon Tawe nad ydynt yn gallu croesi'r afon ar ffyrdd cyhoeddus fel arall.
Dec o ddur galfanedig yw'r bont newydd. CWafodd ei ffurfio o ddwy adran, 22 tunnedd yr un. Cyflfenwyd a chodwyd y bont gan Retro Bridge Ltd. O Gas-gwent.
I godi'r bont, roedd yn rhaid cau'r brif ffordd, sef A4067, am 12 awr er mwyn caniatáu i graen 300-tunnell gael ei osod ar y briffordd. Roedd yn rhaid tynnu'r gwifrau trydan a ffôn i lawr dros dro er mwyn i'r craen gael ei ddefnyddio.
Dechreuodd y gwaith gyda'r wawr, ac erbyn canol y bore roedd yr hen bont Bailey wedi symud i iard adeiladu gyfagos, diolch i Chilcott Builders Ltd. Gosodwyd y ddwy adran o'r Bont Retro yn eu lle a'u cloi ynghyd, gan ddarparu mynediad i gerddwyr. Ail-agorwyd y ffordd dair awr a hanner yn gynt na'r disgwyl.
Mae'r bont newydd wedi gwella gallu pobl i deithio o un lan i'r llall ac hefyd wedi gwella gwelededd ar gyffordd y A4067, a diogelwch cerbydau ar y bont. Mae modd i bob math o gerbydau ddefnyddio'r bont, a'r bwriad yw y bydd yn para am 120 o flynyddoedd. Dyluniwyd a rheolwyd y gwaith ar y rhaglen yma gan y Gwasanaethau Dylunio Peirianegol.
Yn ystod y gwaith, defnyddiodd cerddwyr bont droed dros dro ar ran o'r bont Bailey a pharatowyd platiau dec arbennig ar gyfer mynediad mewn argyfwng. Roedd y trigolion yn uchel eu canmoliaeth am gydweithrediad y gweithlu a safon uchel y crefftwaith wrth i'r gwaith gael ei gwblhau.
Bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn defnyddio'r hen bont at ddibenion hyfforddi milwrol.