Ysgolion Hafren a Ladywell Green

16 Rhagfyr 2019
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud y gallai dwy ysgol yn y Drenewydd uno i greu ysgol gynradd newydd os cymeradwyir argymhelliad sy'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet.
Yn dilyn ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd yn ddiweddar, gofynnir i Gabinet y cyngor gymeradwyo parhau â'r broses er mwyn cyfuno Ysgol Fabanod Ladywell Green ac Ysgol Iau Gymunedol Hafren trwy sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd ar safle presennol yr ysgolion.
Bydd y Cabinet hefyd yn ystyried adroddiad yr ymgynghoriad, yn Ogystal â barn y Cyngor Llawn, a fydd yn trafod y cynigion ar ddydd Gwener, Rhagfyr 20, cyn iddynt lunio'u penderfyniad.
Os penderfynir symud ymlaen gyda'r cynllun, bydd y cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol sy'n cynnig y newid yn ffurfiol. Yna byddai angen iddo ystyried adroddiad arall i gwblhau'r broses, gan ddisgwyl y byddai'r ysgol newydd yn agor fis Medi, 2021.
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Addysg: "Hoffwn i ddiolch i bob un o'r rheiny a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y cynigion yma.
"Deilliant yr ymarfer ymgynghori oedd yr awgrym mai cyfuno Ysgol Fabanod Ladywell Green ac Ysgol Iau Gymunedol Hafren oedd y dewis a oedd yn cael ei ffafrio, gan sefydlu ysgol gynradd newydd ar safle presennol y ddwy ysgol.
"Credaf y bydd y cynnig yma o fudd i ysgolion a staff addysgu'r ddwy ysgol."
Bydd yr ysgol newydd yn gweithredu o'r ddau safle presennol, ond bydd yn symud i adeilad newydd, fel rhan o raglen Ysgolion y 21ain Ganrif, yn y dyfodol.
Bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhelliad ddydd Mawrth 7 Ionawr, 2020.