Casgliadau ailgylchu a sbwriel dros y Nadolig

16 Rhagfyr 2019
Mae'r cyngor sir wedi cadarnhau y bydd casgliadau sbwriel ac ailgylchu o aelwydydd Powys a chwsmeriaid gwastraff masnachol y cyngor yn ddiweddarach na'r arfer dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Bydd criwiau'n gweithio gydol y penwythnosau i sicrhau bod y casgliadau'n digwydd dim ond deuddydd yn hwyrach na'r arfer yn ystod wythnos y Nadolig, ac yna dim ond un diwrnod yn hwyrach yn ystod wythnos y Calan.
Bydd casgliadau sydd i fod i ddigwydd ar Noswyl Nadolig (dydd Mawrth, Rhagfyr 24) a Nos Galan (dydd Mawrth, Rhagfyr 31) yn digwydd fel arfer. Fel arall, cofiwch osod eich biniau allan i'w gwacáu ar y dyddiau canlynol:
Wythnos y Nadolig
Diwrnod casglu arferol | Diwrnod casglu diwygiedig |
Dydd Llun, Rhagfyr 23 | Dim newid |
Dydd Mawrth, Rhagfyr 24 (Noswyl Nadolig) | Dim newid |
Dydd Mercher, Rhagfyr 25 (Diwrnod Nadolig) | Dydd Gwener, Rhagfyr 27 |
Dydd Iau, Rhagfyr 26 (Gŵyl San Steffan) | Dydd Sadwrn, Rhagfyr 28 |
Dydd Gwener, Rhagfyr 27 | Dydd Sul, Rhagfyr 29 |
Wythnos y Calan
Dydd Llun, Rhagfyr 30 | Dim newid |
Dydd Mawrth, Rhagfyr 31 (Nos Galan) | Dim newid |
Dydd Mercher, Ionawr 1 (Diwrnod Calan) | Dydd Iau, Ionawr 2 |
Dydd Iau, Ionawr 2 | Dydd Gwener, Ionawr 3 |
Dydd Gwener, Ionawr 3 | Dydd Sadwrn, Ionawr 4 |
Gyda'r casgliadau wedi'u trefnu gydol cyfnod yr ŵyl, rydym yn annog aelwydydd i fanteisio i'r eithaf ar y gwasanaeth, ac arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl o'u sbwriel o'r tŷ.
Dywedodd Adrian Jervis, Pennaeth Priffyrdd, Cludiant ac Ailgylchu: "Ry'n ni weld clywed, ac mae gennym ni le i gredu, bod Siôn Corn, y dyn prysuraf yr adeg yma o'r flwyddyn, yn chwarae'i ran yn y dasg o ailgylchu y Nadolig yma, felly ry'n ni'n gobeithio y bydd pob teulu'n dilyn ei esiampl ac yn ailgylchu cymaint â phosibl dros y cyfnod yma."
"Nid yn unig bydd ailgylchu cymaint o'ch gwastraff Nadolig â phosibl yn sicrhau nad ydych yn rhedeg allan o le yn eich biniau ar olwynion neu'ch sachau porffor, ond bydd hefyd yn lleihau faint o sbwriel ry'n ni i gyd yn ei anfon i safleoedd tirlenwi."
I gael manylion oriau agor canolfannau gwastraff o'r cartref ac ailgylchu dros y Nadolig, a/neu os bydd y tywydd yn eithriadol o wael, cofiwch edrych ar ein gwefan a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.