Hwb ar gyfer teithio llesol ym Mhowys
Hwb ar gyfer teithio llesol ym Mhowys

18th Rhagfyr 2019
Mae'r newyddion y bydd Powys yn derbyn bron i £500,000 i gefnogi cynllun teithio llesol a seiclo yn y sir wedi cael ei groesawu gan y cyngor sir.
Bydd y sir yn derbyn £480,000 gan Lywodraeth Cymru i helpu ariannu wyth prosiect teithio llesol a seiclo ar draws y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod y Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae gwella cysylltiadau cerdded a seiclo rhwng ardaloedd preswyl a chyfleusterau pwysig megis ysgolion a chanolfannau meddygol yn hanfodol os ydym i gynyddu gweithgaredd cymunedol. Bydd y cyllid yn darparu hwb i gynlluniau yn nhrefi fel y Drenewydd, Aberhonddu a Llandrindod ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cymorth."
Bydd y Drenewydd yn derbyn £150,000 gyda £50,000 yr un ar gyfer prosiectau teithio llesol yn y dref, y cyntaf yn gynllun i wella mynediad o faes parcio Lôn Gefn y dref i ganol y dref i helpu hybu cysylltiadau ar lan yr afon ac o amgylch y ganolfan canwîo/eco newydd ar y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol.
Bydd yr ail yn sefydlu cyfleuster defnydd ar y cyd i ganol y dref a'r maes parcio Gravel a gwella'r ddarpariaeth parcio beiciau. Disgwylir y bydd y cyswllt hwn yn cynyddu'n sylweddol nifer y trigolion sy'n defnyddio teithio llesol i gyrraedd gwasanaethau yng nghanol y dref, gan leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau yn y dref.
Bydd y trydydd prosiect yn creu canolfan seiclo yng nghanol y dref i ddarparu cyfleuster ar gyfer seiclwyr teithio llesol lleol ond hefyd twristiaid sy'n teithio drwy'r dref.
Bydd Aberhonddu'n derbyn £115,000 ar gyfer dau brosiect. Y cyntaf fydd cysylltu canolfan ddiwylliannol newydd y Gaer gyda llwybr tawel diogel i Theatr Brycheiniog gan ddefnyddio Heol y Gamlas a Scout Street. Bydd y llwybr hefyd yn cysylltu'r ddau gyfleuster gyda chanol y dref ac ysgol gynradd.
Bydd ail gynllun ar gyfer y dref yn cynnwys llwybr teithio llesol, oddi ar y ffordd i'r ysgol uwchradd, ysgolion gynradd Mount Street, Ysgol y Bannau a'r ganolfan hamdden.
Bydd Heol Cefnllys Llandrindod yn derbyn £50000 i gwblhau'r rhan nesaf o gynllun a ddechreuwyd yn 2017 ar Spa Road sy'n cysylltu canol y dref gydag ardaloedd preswyl. Bydd y llwybr yn cysylltu Ysgol Cefnllys, Neuadd y Sir, cyfleusterau iechyd, gwasanaethau adwerthu gydag ardaloedd preswyl.
Bydd y cysylltiad newydd yn darparu llwybr arall oddi ar y ffordd ar gyfer seiclwyr ar y rhwydwaith seiclo cenedlaethol 825, gan osgoi rhannau o'r ffordd fawr brysur, yn cynnwys cylchfan yr A483.
Bydd Ffordun ger y Trallwng yn derbyn £40,000 i gwblhau cynllun presennol i ganiatau trigolion i ddefnyddio llwybr heb gerdded neu farchogaeth ar yr A490 prysur. Bydd y llwybr hefyd yn cysylltu â Llwybr Clawdd Offa.
Mae'r cyngor sir hefyd wedi derbyn £25,000 i wella mannau storio/parcio beiciau a sgwteri mewn sawl ysgol yn y sir. Bydd yr arian yn darparu cysgodfannau a bachau beiciau newydd a fydd yn annog rhagor o ddisgyblion i ddefnyddio eu beiciau neu sgwteri i deithio i'r ysgol.
Cafodd £200,000 ychwanegol ei glustnodi ar gyfer camlesi Sir Fynwy a Threfaldwyn fel cyfraniad tuag at gostau cyffredol o wella llwybrau tynnu.