Tîm Gweithwyr Ieuenctid Datgysylltiedig yn ennill dyfarniad

19 Rhagfyr 2019
Mae un o wasanaethau'r cyngor sy'n darparu gwasanaeth unigryw a phwrpasol i bobl ifanc mewn angen wedi ennill dyfarniad arobryn.
Mae Tîm Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig Cyngor Sir Powys wedi ennill Dyfarniad Arddangos Atal Digartrefedd yn y Dyfarniadau Hybu Annibyniaeth 2019. Cynhaliwyd y seremoni yn Portland House ym Mae Caerdydd y mis diwethaf (Dydd Gwener, 29 Tachwedd).
Dathliad o'r bobl a'r timau sy'n darparu cymorth yng Nghymru a'r gwaith sy'n ael ei wneud helpu rhai o'r aelodau mwyaf bregus yn ein cymdeithas i gyflawni eu potensial a sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosibl.
Mae'r tîm wedi cefnogi nifer o bobl ifanc yn ystod 2018/19 a oedd yn ddigartref, neu mewn perygl o gael eu gwneud yn ddigartref. Mae wedi darparu cymorth i lawer o bobl ifanc gydag amrywiaeth o anghenion ers ei greu, gan gynnwys 135 o bobl yn 2018/19.
Mae gwaith effeithiol, arloesol y tîm, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn cyfuno dulliau gwaith ieuenctid ffurfiol ac anffurfiol, yn golygu bod y cyfraddau ymgysylltiad a llwyddiant yn drawiadol.
Dywedodd y Cyng Rachel Powell, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am wasanaethau ieuenctid: "Rwy'n falch fod ein Tîm Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig wedi ennill y dyfarniad yma.
"Mae'n wych fod gwaith caled y tîm a'u hymroddiad i gefnogi pobl ifanc mewn angen wedi cael ei gydnabod wrth iddyn nhw ennill y dyfarniad yma.
"Hoffwn i longyfarch holl aelodau'r tîm am eu llwyddiant, ac rwy'n gwerthfawrogi eu hymdrechion. Mae'n dangos pa mor hanfodol yw darpariaeth ieuenctid wrth ddarparu cymorth unigryw i'r bobl ifanc hynny sydd ei angen."