Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn darparu ysgolion newydd

14 Ionawr 2020
Mae naw prosiect adeiladu ysgolion wedi cael eu cwblhau yn ystod y pedair blynedd diwethaf fel rhan o raglen fuddsoddi fawr Cyngor Sir Powys.
Mae'r Cyngor wedi llwyddo i gyflawni naw prosiect o dan ei raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd wedi gweld un ysgol uwchradd a saith ysgol gynradd yn cael eu hadeiladu ac un ysgol gynradd arall yn cael ei hailwampio.
Mae'r cyngor a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £56m fel rhan o'r cam cyntaf yn y rhaglen fuddsoddi.
Yr ysgol gyntaf i agor o dan y rhaglen oedd ysgol Dafydd Llwyd, y Drenewydd, a agorodd ei drysau yn ôl ym mis Ionawr 2016, am gost o £8m.
Yn dilyn adolygiad ardal o ysgolion dalgylch Gwernyfed a welodd 10 ysgol gynradd yn dod yn bump, mae'r Cyngor wedi adeiladu pum ysgol gynradd yn Llyswen, Talgarth, Cleirwy, y Gelli Gandryll a Llangors fel rhan o raglen fuddsoddi gwerth £24m.
Mae'r Cyngor hefyd wedi adeiladu ysgol gynradd newydd yng Ngharno ac wedi ailwampio Ysgol Glantwymyn, diolch i fuddsoddiad o £2.8m. Darparwyd gwerth £500,000 o gyllid ar gyfer Ysgol Gynradd newydd Carno gan Gymdeithas Hamdden Carno, trwy law Ymddiriedolaeth Fferm Wynt Carno.
Ysgol Carno ac Ysgol Glantwymyn ynghyd ag ysgol Llanbrynmair yw model cyntaf y Cyngor ar gyfer ffedereiddio ysgolion. Canmolwyd y ffederasiwn yn fawr gan arolygwyr Estyn yn 2019 ar ôl i'r tair ysgol dderbyn ddosbarthiad rhagorol neu dda yn y pum maes allweddol a adolygwyd gan arolygwyr.
Y prosiect diweddaraf i'w gyflawni gwerth £21m yw Ysgol Uwchradd Aberhonddu a agorodd ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2019.
Mae pob prosiect yn unigryw ac yn ymateb i anghenion lleol gyda phwyslais cryf ar fuddion cymunedol, gan gynnwys enghreifftiau o gyd-leoli gwasanaethau llyfrgell, mannau cyfarfod cymunedol a chyfleusterau chwaraeon yn ogystal â chyfleusterau sy'n canolbwyntio ar anghenion y teulu.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Mae darparu amgylcheddau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn un o nodau ein Gweledigaeth 2025.
"Mae hyn wedi bod yn fuddsoddiad sylweddol gan y cyngor a chan Lywodraeth Cymru, sydd wedi darparu cyfleusterau ar gyfer yr 21ain ganrif a fydd yn helpu ein dysgwyr a'n staff addysgu i ffynnu.
Ni fydd ein cynlluniau buddsoddi yn dod i ben yma. Mae gwaith wedi ailddechrau ar adeilad newydd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng a byddwn yn parhau â'n cynlluniau ar gyfer adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen, Ysgol Gymraeg y Trallwng, Ysgol Cedewain a Brynllywarch a datblygiadau cyffrous eraill."