Chwilio am aelodau newydd ar Fforwm Mynediad Lleol Powys

14 Ionawr 2020
Bydd cyfle i drigolion sy'n mwynhau cefn gwlad Powys, gyda'r brwdfrydedd i'w reoli er budd y cyhoedd, i ymuno â Fforwm Mynediad Lleol Powys.
Dyletswydd y fforwm yw bod yn gynghorydd statudol i Gyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill ar faterion hamdden yn yr awyr agored yng nghefn gwlad y sir, yn arbennig materion hawliau tramwy lleol.
Tair blynedd yw oes y Fforwm Mynediad Lleol, ac mae'r cyngor yn chwilio am bobl addas i ddechrau'r fforwm newydd a fydd yn cwrdd rhwng dwywaith a phedair gwaith y flwyddyn. Mae Fforwm Mynediad Lleol Powys yn chwilio am bobl sy'n mwynhau'r awyr agored a hamdden yng nghefn gwlad ac am wneud gwahaniaeth.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r fforwm wedi trafod yr arolwg ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy, darparu mynediad caniataol ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol a'r newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth mynediad i'r cyhoedd.
I dderbyn pecyn cais, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Fforwm Mynediad Lleol sef Mark Stafford-Tolley, Cyngor Sir Powys, Swyddfeydd y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys LD1 6AA, dros y ffôn ar 01597 827677 neu rightsofway@powys.gov.uk
Mae gennych tan ddydd Gwener 14 Chwefror i anfon cais.