Cyhoeddi hysbysiad statudol ar gyfer cynlluniau uno ysgolion y Drenewydd

14 Ionawr 2020
Mae cynlluniau i uno dwy ysgol yn y Drenewydd i greu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd wedi cymryd cam ymlaen gyda chyhoeddi hysbysiad statudol.
Yn gynharach y mis hwn, cymeradwyodd cabinet Cyngor Sir Powys gynlluniau i uno Ysgol Fabanod Ladywell Green ac Ysgol Iau G.G. Hafren. Y cynnig cyfredol yw bod yr ysgol newydd yn agor ym mis Medi 2021 ar y safleoedd presennol.
Bydd yr ysgol newydd yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng 4 - 11 oed. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol fabanod 94 o ddisgyblion a'r ysgol iau 145 o ddisgyblion.
Gellir gweld yr hysbysiad statudol ar wefan y cyngor https://cy.powys.gov.uk/article/7477/Ysgol-Fabanod-Ladywell-Green-ac-Ysgol-Iau-Hafren
Bydd y Cyfnod Gwrthwynebu yn dod i ben ddydd Llun, 10 Chwefror, 2020.