Gweithdai gloywi theori gyrru i yrwyr hŷn

15 Ionawr 2020
Bydd cyfle i yrwyr hŷn ym Mhowys loywi eu gwybodaeth am y ffyrdd, diolch i weithdai anffurfiol am ddim sy'n cael eu trefnu gan y cyngor sir.
Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnal gweithdai gloywi theori gyrru ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mawrth 25 Chwefror am 10 am - Y Drenewydd
- Dydd Mercher 26 Chwefror am 1.30 pm - Machynlleth
- Dydd Llun 2 Mawrth am 10am - Crughywel
- Dydd Llun 9 Mawrth am 10am - Ystradgynlais
- Dydd Mawrth 10 Mawrth am 10 am - Rhaeadr Gwy
Yn benodol i yrwyr y sir sydd dros 65 oed, bydd hwn yn weithdy anffurfiol dros ddwy awr yn yr ystafell ddosbarth ac yn atgoffa pobl am Reolau'r Ffordd Fawr a gofynion o ran trwyddedau. Bydd hefyd yn trin pynciau megis gyrru gyda'r nos, cyfreithiau alcohol a meddyginiaeth a diogelwch personol tu ôl i'r olwyn.
Bydd yr Uned hefyd yn rhoi manylion asesiad gyrru ymarferol os oes angen.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: "Mae sicrhau fod ein ffyrdd yn ddiogel yn bwysig iawn i'r sir. Byddem yn annog gyrwyr hŷn ar draws Powys i fanteisio ar y cynllun gwych hwn. Mae'r gweithdai hyn mor bwysig gan eu bod yn gloywi ac yn diweddaru sgiliau gyrru hanfodol a allai yn y pen draw, helpu i achub bywydau."
Am ragor o wybodaeth neu i gadw lle ar y cwrs hwn, anfonwch e-bost at road.safety@powys.gov.uk neu ffoniwch 01686 611586 ar gyfer cyrsiau Machynlleth a'r Drenewydd neu 01597 826704 ar gyfer cyrsiau Crughywel, Rhaeadr Gwy ac Ystradgynlais.