Y Cabinet i drafod cyllid ychwanegol i ysgolion a ffyrdd Powys

15 Ionawr 2020
Bydd cabinet Cyngor Sir Powys yn ystyried cyllideb gytbwys wythnos nesaf a fydd yn cynnig cyllid ychwanegol i wasanaethau allweddol statudol megis addysg, plant a gwasanaethau priffyrdd.
Bydd gofyn i'r cabinet gymeradwyo cynlluniau i wario bron i £270m yn 2020-21 a ariennir trwy gyfuniad o gyllid gan Lywodraeth Cymru a threth y cyngor.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet ar faterion Cyllid, y Cynghorydd Aled Davies: "O ganlyniad i'r cyllid ychwanegol gan lywodraeth Boris Johnson, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei gefnogaeth i Awdurdodau Lleol Cymru
"Am y tro cyntaf mewn sawl blwyddyn, rydym wedi derbyn cynnydd angenrheidiol yn ein setliad. Mae degawd o gyni wedi cael effaith andwyol ar wasanaethau'r Cyngor a'n sefyllfa ariannol, ac er ein bod yn croesawu'r cynnydd hwn, nid yw'n ddigon i gwrdd â'r holl gostau sy'n wynebu'r Cyngor dros y flwyddyn nesaf.
"Mae'r gyllideb ddrafft y byddwn yn ei hystyried yr wythnos nesaf yn cynnig cynnydd sylweddol i gyllid Gwasanaethau Addysg a Phlant gyda £6 miliwn ychwanegol i ysgolion. Bydd angen yr arian hwn i ariannu penderfyniad y llywodraeth i ategu cyflogau athrawon a phensiynau gan olygu y bydd cyllideb addysg yn cyrraedd bron i £100m y flwyddyn. Bydd £6 miliwn yn ychwanegol hefyd yn cael ei drafod ar gyfer Gwasanaethau Plant i dalu'r costau parhaus o ofalu am ein plant mwyaf bregus.
"Mae'r gyllideb ddrafft hefyd yn cynnig £0.5 miliwn yn ychwanegol ar gynnal a chadw ffyrdd, sy'n faes oedd wedi peri pryder i'r cyhoedd yn ôl yr ymgynghoriad diweddaraf ar y gyllideb yn yr Hydref. Bydd y cyllid refeniw hwn ynghyd â'r £15 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf mewn priffyrdd dros y bum mlynedd nesaf yn ein helpu ni wella cyflwr ffyrdd Powys.
"I'n helpu ni ariannu'r cynnydd hwn mewn gwariant ar ein gwasanaethau rheng flaen, rydym yn cynnig arbed tua £11 miliwn ar draws y cyngor. Byddwn yn gwneud hyn trwy drawsnewid gwasanaethau a sicrhau arbedion effeithlonrwydd pellach.
"Rydym hefyd yn cynnig cynnydd o bump y cant yn nhreth y cyngor y flwyddyn nesaf i fantoli'r gyllideb, sy'n llawer is na'r llynedd ac yn unol â'r adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad â'r cyhoedd ar y gyllideb. Gyda'r cynnydd hwn, bydd y Cyngor yn gallu gosod cyllideb gynaliadwy a gwarchod gwasanaethau rheng flaen rhag cwtogiadau pellach.
"Bydd y Cabinet hefyd yn ystyried rhaglen gyfalaf ddrafft ar gyfer y deng mlynedd nesaf gan olygu buddsoddi cyfanswm o £532 miliwn mewn prosiectau seilwaith allweddol gan gydnabod ein bod ni angen yr adeiladau a'r cyfleusterau priodol i gyflwyno gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol. Nid yn unig y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu gyda seilwaith ond bydd yn hwb sylweddol i economi'r sir."
Bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei hystyried gan y cabinet ddydd Mawrth (21 Ionawr) ac os caiff ei chymeradwyo, bydd yn mynd gerbron y cyngor llawn ym mis Chwefror.