Ymgynghoriad Busnes

16 Ionawr 2020
Mae busnesau ym Mhowys yn cael cynnig cyfle i rannu eu sylwadau ar gyllideb refeniw'r cyngor sir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod.
Mae'r cyngor sir yn gwahodd busnesau i roi sylw ar y gyllideb refeniw 2020/21 fel rhan o'r broses ymgynghori.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Cyllid, y Cynghorydd Aled Davies: "Mae'r gyllideb yn bwysig i fusnes ledled y sir, ac mae'r cyfle'n cael ei ddarparu i fusnesau fynegi'u barn waeth yma le maent yn gweithio."
Mae gwahoddiad i'r rheiny sydd â diddordeb fynd i wefan y Cyngor: http://www.powys.gov.uk a chlicio'r ddolen i Bwyllgorau a Chyfarfodydd y Cyngor/agenda'r Cyngor 21 Ionawr 2020 neu ddefnyddio'r ddolen uniongyrchol:
https://powysw.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=137&MId=5357&Ver=4&LLL=1
a fydd yn mynd â chi'n uniongyrchol at bapurau'r Cabinet sy'n cynnwys manylion llawn cyllideb arfaethedig y Cyngor.
Dylai'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad fod yn ysgrifenedig, a chael eu cyfeirio at Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol, Neuadd Sir Powys , Spa Road East, Llandrindod, LD1 5LG erbyn 18 Chwefror 2019.