Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar Ganllawiau Cynllunio Atodol pellach

20 Ionawr 2020
Mae'r Cyngor Sir yn gwahodd sylwadau gan drigolion ar dri set arall o ganllawiau a fydd yn cael eu defnyddio i ategu Cynllun Datblygu Lleol y sir sydd wedi'i fabwysiadu.
Yn 2018, fe wnaeth y cyngor sir fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol newydd sy'n nodi polisïau cynllunio'r sir hyd at 2026 (heblaw am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), gydag ymrwymiad i gynhyrchu set o Ganllawiau Cynllunio Atodol pellach.
Mae'r canllawiau atodol hyn yn destun chwe wythnos o ymgynghori cyhoeddus, gan ymdrin â phynciau megis draenio tir a llifogydd, archaeoleg a'r amgylchedd hanesyddol.
Bwriad y Canllawiau Cynllunio Atodol yw helpu i ddeall, dehongli a rhoi rhai polisïau ar waith wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Maent yn helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r polisïau hynny a'u bod yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Maent yn cynnwys cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol i swyddogion cynllunio, datblygwyr, asiantau a pherchnogion safleoedd.
Mae'r Cyngor yn eu cynhyrchu yn unol â'r rhaglen a gytunwyd gyda'r Arolygydd Cynllunio annibynnol a gynhaliodd yr archwiliad cyhoeddus yn ystod 2017 i sicrhau bod y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd yn gweithio'n effeithiol o ran datblygu tir i hwyluso datblygiad cynaliadwy.
Dechreuodd yr ymgynghoriad ar ddydd Llun 20 Ionawr a bydd yn gorffen am 5.00 pm dydd Gwener 28 Chwefror. Gallwch weld y dogfennau drafft a gwybodaeth bellach ar wefan y cyngor yn https://cy.powys.gov.uk/article/5526/Canllawiau-Cynllunio-Atodol-y-CDLl
Mae'r dogfennau hefyd ym mhob llyfrgell a phrif swyddfeydd y cyngor yn Llandrindod (Neuadd y Sir a'r Gwalia), Y Trallwng ac Aberhonddu.