Niwed Emosiynol ac Esgeulustod
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y Cwrs: The Training Hub
Ni ddylid diystyru effaith niwed emosiynol ac esgeulustod ar blant a phobl ifanc, p'un a ydynt yn byw gyda'u teuluoedd neu ar wahân iddynt. Mae ceisio dychryn neu fychanu plentyn yn fwriadol, neu ei eithrio, ei ynysu neu'i anwybyddu yn gallu esgor ar ganlyniadau dinistriol i'w ymddygiad, ei hunan-dyb a'i iechyd meddwl.
Amcanion y Cwrs:
- Deall yr hyn sy'n achosi cam-driniaeth emosiynol ac esgeulustod a'r diffiniad ohonynt
- Deall cyd-destun cyfreithiol unrhyw ymyriad
- Adnabod arwyddion a symptomau ac effaith cam-driniaeth emosiynol ac esgeulustod ar ddatblygiad plant a'r deilliannau i blant
- Bod yn ymwybodol o'r materion sy'n ymwneud â chydweithio - gyda rhieni, ac ar draws ffiniau proffesiynol
- Datblygu dulliau o ddeall a gweithio gyda'r effeithiau emosiynol y mae camdriniaeth emosiynol ac esgeulustod yn ei gael ar weithwyr proffesiynol
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
TBC |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau