Toglo gwelededd dewislen symudol

Arfer Gorau wrth Ysgrifennu Adroddiad

Darparwr y cwrs

DCC Interactive Ltd

Nod

  • Mae'r cwrs undydd hynod ymarferol hwn yn dilyn 'taith' cofnod; o'r greadigaeth gychwynnol, rheoli a storio cofnodion i arfer gorau. Mae'r cwrs yn tynnu sylw at bwysigrwydd cofnodion yn ystod achos cyfreithiol a pha mor hawdd y gellir ymosod arnynt neu eu hamharchu.  Ystyrir manylion beth sydd i'w gynnwys mewn nodiadau ynghylch gwerthuso, asesu, y wybodaeth a gesglir, ymyrraeth, cynllunio a llunio penderfyniadau.  Byddwn hefyd yn dadansoddi ac yn egluro atebolrwydd y Gweithiwr Gofal Cymdeithsol Proffesiynol a'r gwahanol ffyrdd y bydd cofnodion yn cael eu craffu. Bydd mynychwyr y cwrs hefyd yn dysgu sut i gasglu, diogelu a chyflwyno cofnodion i safonau arfer gorau.

    Mae'r cwrs rhyngweithiol hwn yn datblygu sgiliau cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yn natganiadau a/neu adroddiadau'r gweithwyr cymdeithasol. Trwy ymarferion dan awreiniad yr hyfforddwyr, bydd y mynychwyr yn ystyried cynnwys tystiolaeth ysgrifenedig trwy ystyried ffynhonnell a phwysigrwydd yr wybodaeth sydd i'w chynnwys. Byddant yn dysgu sut i wahaniaethu rhwng ffeithiau, dehongliadau a barn ac yn edrych ar beryglon a chamgymeriadau cyffredin Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gofal Cymdeithasol, ac yn dysgu sut i'w hosgoi. Bydd mynychwyr yn adolygu adroddiadau, gan gynnwys arddull a fformat, ac yn defnyddio meini prawf asesu gwrthrychol i asesu eu tystiolaeth ysgrifenedig eu hunain.

Deilliannau Dysgu

  • Cydnabod pwysigrwydd cofnodion wrth ddarparu gwell canlyniadau i blant -Adnabod ffactorau allweddol wrth sicrhau gofal parhaus 
  • Gwahaniaethu rhwng ffeithiau, casgliadau a barn
  • Cofnodi ffeithiau clir a chryno o arsylwi, cwestiynu a dogfennu 
  • Rheoli cofnodion yn unol ag arfer gorau (gan gynnwys yn electronig)
  • Gallu defnyddio cofnodion fel prif ffynhonnell wybodaeth -Cadw at brotocolau rhannu gwybodaeth 
  • Adnabod sut y bydd gweithiwr proffesiynol yn atebol am ei gofnodion 
  • Adnabod Pwysigrwydd casglu gwybodaeth yn effeithiol trwy wybod sut y caiff ei chynnwys tystiolaeth ysgrifenedig 
  • Nodi'r materion, y ffeithiau a'r ffynonellau, a'u pwysau
  • Gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau, a ffynhonnell a phwysau'r dystiolaeth sydd ar gael 
  • Datblygu'r gallu i edrych yn wrthrychol a beirniadol mewn perthynas â'u gwybodaeth ysgrifenedig eu hunain 
  • Cynhyrchu datganiadau sy'n cydymffurfio â'r llys ac adroddiadau sy'n gallu gwrthsefyll cael ei croesholi  
  • Llunio adroddiad da,  gan gynnwys cynllun, fformat ac arddull briodol

Dyddiad a Amseroedd

  • 4 July 2024 09:30-16:30

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Ffurflen Datgan Diddorddeb ar gyfer Cyrsiau Hyfforddiant

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau