Agor ysgol uwchradd newydd yn swyddogol fis nesaf

27 Ionawr 2020
Bydd ysgol uwchradd newydd yn ne Powys yn cael ei hagor yn swyddogol fis nesaf, dywedodd y cyngor sir.
Bydd Ysgol Uwchradd Aberhonddu'n cael ei hagor yn swyddogol ddydd Mercher 5 Chwefror gan Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris a Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams.
Agorodd yr ysgol uwchradd newydd ei drysau i ddisgyblion a staff am y tro cyntaf fis diwethaf (Rhagfyr). Mae lle i 750 o ddisgyblion yn yr ysgol a gostiodd £21m i'w hadeiladu a bydd yn ateb gofynion addysg yr 21ain ganrif.
Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru a'r cyngor fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Cwmni BAM Construction adeiladodd yr ysgol sydd rhwng y ganolfan hamdden a'r trac athletau.
Yn mesur 7,500 medr sgwâr, mae'r ysgol hon sydd o'r radd flaenaf yn cynnwys ardaloedd addysgu arbenigol, neuadd chwaraeon â phedwar cwrt, stiwdio gweithgareddau, llefydd bwyta a chegin goginio lawn.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Bydd agoriad swyddogol Ysgol Uwchradd Aberhonddu'n ddathliad o gyfnod newydd o gyfleoedd addysg i ddysgwyr yr ardal.
"Rhan o Weledigaeth 2025 yw darparu amgylcheddau addysgu a dysgu o ansawdd uchel ac mae'r cyfleusterau gwych sydd yma'n cynnig gwelliannau sylweddol i ddisgyblion a staff.
"Trwy'r bartneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae cymuned yr ysgol a'r contractwyr wedi creu ysgol wych gyda lle i ddysgwyr ac athrawon ffynnu."