Dweud eich dweud
2nd Chwefror 2020
Mae Tîm Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys yn ceisio eich barn am enw a hunaniaeth newydd ar gyfer y ganolfan gyswllt dros y ffôn.
Mae'r ganolfan gyswllt, sydd wedi'i lleoli yn Llandrindod, yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am ystod o gymorth i blant a theuluoedd ym Mhowys. Hefyd, gellir codi pryderon am blant a phobl ifanc drwy'r ganolfan gyswllt.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod y Cabinet dros Bobl Ifanc: "Mae hwn yn wasanaeth hanfodol i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd ym Mhowys. Rydym yn chwilio am enw a hunaniaeth newydd i'w wneud yn fwy cofiadwy ac yn haws cyrraedd y gwasanaeth. Rydym yn gwerthfawrogi eich barn yn fawr, felly hoffwn eich annog i ddweud eich dweud."
Rydyn ni wedi creu rhestr fer o bedwar enw a hunaniaeth, felly hoffwn gael eich barn ar ba un fyddai orau.
Cliciwch yma i fynd i'r arolwg. Bydd gennych tan hanner nos 23 Chwefror 2020 i roi eich barn.