Codiad yn rhenti tai cyngor
Codiad yn rhenti tai cyngor

7fed Chwefror 2020
Os caiff argymhelliad ei gymeradwyo gan gabinet y cyngor bydd rhenti tai cyngor ym Mhowys yn codi llai na £2.50 yr wythnos o fis Ebrill.
Mae'r cynnydd o £2.42 yn cynrychioli cynnydd o 2.7 y cant ar gyfer 5,375 o dai'r Cyngor, ac mae'n angenrheidiol er mwyn ariannu'r gwasanaeth a'r buddsoddiad yn y stoc tai. Mae'r cynnydd ar y pen isaf o'r targed rhent a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod y Cabinet ar faterion Gwasanaethau Datblygu Economaidd, Tai a Rheoleiddio: "Mae'r cynnydd eleni yn llawer llai na'r llynedd ond mae'n angenrheidiol er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd i denantiaid a chaniatáu i'r Cyngor barhau i ddarparu tai fforddiadwy, ynni effeithlon sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda.
"Bydd y codiad yn helpu i ariannu rhaglen fuddsoddi'r cyngor gan ddarparu 250 o gartrefi newydd yn y sir a chynnal Safon Ansawdd Tai Cymru.
"Mae rhenti'r Cyngor ym Mhowys ymhlith yr isaf o unrhyw landlord sy'n gweithio yn y Sir ac eto'n cynnig y sicrwydd mwyaf i denantiaid. Mae'r Cyngor yn derbyn bron dim cymhorthdal o ddydd i ddydd gan y Llywodraeth ar gyfer ei wasanaeth tai ond y flwyddyn nesaf bydd yn buddsoddi mwy na £ 20m yn y cartrefi sydd ganddo ar hyn o bryd ac mewn cartrefi newydd. "
Gofynnir hefyd i'r Cabinet godi'r taliadau am wasanaethau, megis cynnal a chadw tiroedd, glanhau ardaloedd cymunedol, gwresogi, leiniau golchi, erialau teledu, trin carthffosiaeth a gwaith diogelwch tân. Bydd y codiad yn cael ei osod ar dri y cant. Bydd rhent ar gyfer garejys y cyngor yn codi ar yr un gyfradd gan ychwanegu ychydig dros £1 yr wythnos at y taliad.
Bydd y Cabinet yn ystyried y codiadau hyn ddydd Mawrth 11 Chwefror.