Y Cyngor yn cyhoeddi enw newydd ar ddatblygiad y Llyfrgell a'r Amgueddfa yn y Trallwng

Chwefror 10, 2020
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi mai enw'r amgueddfa a'r llyfrgell integredig yn y Trallwng fydd Y Lanfa/The Wharf.
Daw'r newyddion wrth i'r gwaith dod i ben i gynnwys Llyfrgell y dref yn adeilad Amgueddfa Powysland yn y Trallwng. Mae hyn yn rhan o brosiect eiddo ehangach i ddarparu mwy o lety â chymorth i bobl oedrannus yn y dref.
Mae'r enw, Y Lanfa/The Wharf, yn adlewyrchu lleoliad hanesyddol yr adeilad wth ymyl y gamlas. Dyluniwyd y logo ar gyfer y cyfleuster newydd yn wirfoddol gan y dylunydd graffig o Awstralia, Catalina Lara, sef chwaer yng nghyfraith rheolwr cynorthwyol y cyfleuster, Emily Claxton.
Bydd y llyfrgell yn cau ei drysau yn ei lleoliad presennol ddydd Sadwrn 14 Mawrth a disgwylir y bydd yn ail-agor ddydd Llun 30 Mawrth. Bydd defnyddwyr y llyfrgell yn cael amser ychwanegol ar eu benthyciadau ac yn cael y cyfle i gael mwy o lyfrau dros y pythefnos. Hefyd, mae'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn cynnig mynediad i lyfrgell rithwir - amrywiaeth eang o e-lyfrau, lawrlwythiadau e-sain, e-gylchgronau ac e-gomics-a sydd ar gael i bobl eu mwynhau ar unrhyw adeg.
Bydd holl gyfleusterau'r llyfrgell bresennol ar gael yn ei chartref newydd, gan gynnwys mynediad i gyfrifiaduron, lle i blant a gwasanaethau arferol y cyngor.
Ar ôl gwacau adeilad presennol y llyfrgell, bydd y gwaith yn dechrau i adnewyddu'r adeilad i dderbyn staff y cyngor o Neuadd Maldwyn, Ffordd Hafren. Unwaith y bydd y staff wedi symud yno, bydd Neuadd Maldwyn (yn amodol ar gael caniatâd cynllunio adeilad rhestredig) yn cael ei thrawsnewid fel llety byw'n annibynnol i bobl hŷn (a elwir hefyd yn Ofal Ychwanegol) gan Gymdeithas Tai ClwydAlyn.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod y Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant: "Bydd integreiddio gwasanaethau'r llyfrgell a'r amgueddfa mewn un adeilad yn galluogi'r ddau wasanaeth i agor lle ar y cyd ar gyfer llawer mwy o weithgareddau a digwyddiadau. Mae cyfuno mannau diwylliannol, yn rhoi'r cyfle i godi ymwybyddiaeth o arteffactau'r Amgueddfa yn ogystal ag annog ffocws ar lythrennedd. '
'Mae cylchdroi arddangosfeydd celf a llenyddiaeth o amgylch mannau diwylliannol eraill ym Mhowys yn eithaf cyffredin, ac mae'n rhoi cyfle i adnewyddu arddangosfeydd a rhoi mwy o gyfleoedd i'r cyhoedd eu mwynhau.'
Talwyd teyrnged i waith y dylunydd graffeg gan y Cynghorydd Powell: "Rydym wrth ein boddau gyda'r logo ac yn ddiolchgar iawn i'r dylunydd graffig, Catalina, sydd wedi rhoi ei hamser am ddim i ddylunio'r logo ar gyfer yr amgueddfa a'r llyfrgell yn y Trallwng."
Prosiect byw'n annibynnol y Trallwng fydd yr ail ddatblygiad i agor ym Mhowys ar ôl Llys Glan yr Afon yn y Drenewydd, a agorwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Wales and West.
Mae byw'n annibynnol yn darparu llety pwrpasol modern sydd â gofal a chymorth 24 awr ar y safle i ddiwallu anghenion a disgwyliadau newidiol preswylwyr, gan ganiatáu iddynt fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. Gall y math hwn o dai gynnig dewis arall yn lle gofal preswyl, gofal nyrsio neu dai gwarchod. Ei nod yw darparu 'cartref am oes' i lawer o bobl hyd yn oed os yw eu hanghenion gofal yn newid dros amser.
Mae'r rhagamcanion ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf yn dangos y bydd nifer y bobl 75 oed a throsodd yn tyfu fel cyfran o gyfanswm y boblogaeth o 11% i 23%. Mae hyn yn dangos bod Powys fel Sir yn sicrhau'r lles gorau posibl i'n poblogaeth hŷn er y gall hefyd ddod â heriau i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Diwedd
Llun: Logo newydd Y Lanfa/The Wharf.