Arweinydd a Gweinidog Cabinet yn agor adeilad ysgol uwchradd newydd

10 Chwefror 2020
Mae ysgol uwchradd newydd yn ne Powys wedi cael ei hagor yn swyddogol gan Arweinydd Cyngor Sir Powys a Gweinidog Addysg Cymru.
Agorwyd adeilad newydd £21m Ysgol Uwchradd Aberhonddu ar ddydd Mercher 5 Chwefror gan y Cynghorydd Rosemarie Harris a Kirsty Williams AC.
Canodd y disgyblion ar gyfer gwestai a pherfformiwyd rhan o gynhyrchiad nesaf yr ysgol - School of Rock - yn y seremoni agor.
Agorodd yr ysgol uwchradd newydd ei drysau i ddisgyblion a staff am y tro cyntaf fis Rhagfyr diwethaf a bydd yn ateb gofynion addysg yr 21ain Ganrif.
Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r cyngor fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Cwmni BAM Construction adeiladodd yr ysgol sydd rhwng y ganolfan hamdden a'r trac athletau.
Yn mesur 7,500 medr sgwâr, mae'r ysgol hon sydd o'r radd flaenaf yn cynnwys ardaloedd addysgu arbenigol, neuadd chwaraeon â phedwar cwrt, stiwdio gweithgareddau, llefydd bwyta a chegin goginio lawn.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Mae agoriad swyddogol Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn nodi cyfnod newydd o gyfleoedd addysg i ddysgwyr yr ardal.
"Rhan o Weledigaeth 2025 yw darparu amgylcheddau addysgu a dysgu o ansawdd uchel ac mae'r cyfleusterau gwych sydd yma'n cynnig gwelliannau sylweddol i ddisgyblion a staff.
"Trwy'r bartneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae cymuned yr ysgol a'r contractwyr wedi creu ysgol wych gyda lle i ddysgwyr ac athrawon ffynnu."
Dywedodd Richard Jenkins, Pennaeth dros dro Ysgol Uwchradd Aberhonddu: "Mae hwn yn gyfleuster gwych ac mae eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'n dysgwyr a'n staff mewn cyn lleied o amser.
"Rydym yn hynod o falch o'n hysgol newydd ac yn gobeithio y bydd ein hamgylchedd newydd yn helpu pob dysgwr am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Roeddwn yn falch iawn o gael agor Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn swyddogol a gweld y gweddnewidiad ar ôl yr ymweld cyntaf â'r safle pan ddechreuodd y gwaith adeiladu yn 2018.
"Rwy'n credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau gorau y gallwn eu darparu.
"Roeddwn yn falch o weld yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn Aberhonddu gyda chefnogaeth o dros £10 miliwn gan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain ganrif Llywodraeth Cymru.
"Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth y mae'n bosibl cyflawni unrhyw brosiect ysgol a hoffwn longyfarch pawb a fu ynghlwm â'r prosiect hwn am eu gwaith caled a'u penderfyniad i gyflawni'r prosiect hwn.
"Hoffwn hefyd ddymuno pob lwc i'r holl staff a'r disgyblion yn yr ysgol newydd wych hon."