Pont Crughywel

18 Chwefror 2020
Bwriedir i Bont Crughywel agor yn ddiweddarach y prynhawn yma (Dydd Mawrth 18 Chwefror) wedi i'r mwd a'r llanastr gael ei glirio ar ddwy ochr y bont.
Mae peirianwyr wedi asesu'r ddifrod presennol i dorddyfroedd y bont ac wedi barnu ei bod hi'n ddiogel ei hailagor ar hyn o bryd.
Mae'r rhagolygon yn cynnwys glaw trwm yn ddiweddarach yr wythnos yma, ac mae'r peirianwyr wedi cadarnhau y bydd y bont yn cael ei chau ar unwaith os cwyd lefel yr afon i'r rhan sydd wedi'i difrodi. Byddai hynny'n parhau hyd nes y bydd lefel yr afon yn disgyn digon i ganiatáu rhagor o archwiliadau strwythurol.