Y cyngor i fuddsoddi £50m i adeiladu 380 o gartrefi newydd
Y cyngor i fuddsoddi £50m i adeiladu 380 o gartrefi newydd

Chewfror 19eg 2020
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi dros £50m i adeiladu 380 o gartrefi fforddiadwy, rhentu diogel erbyn 2025 fel rhan o raglen 'Cartrefi newydd i Bowys'.
Amlinellwyd y cynlluniau uchelgeisiol yng Nghynllun Busnes Tai newydd y cyngor sir, gan hefyd addo buddsoddi £45,955,000 yn ychwanegol dros y bum mlynedd nesaf yng nghartrefi presennol y cyngor i sicrhau eu bod yn parhau i gwrdd â Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Datblygu Economaidd, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio, y Cynghorydd James Evans: "Byddwn yn gofyn i'r cabinet gymeradwyo cynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol fforddiadwy newydd i helpu cenedlaethau'r dyfodol. Rydym am fuddsoddi'n drwm yn ein stoc bresennol i sicrhau eu bod yn diwallu safonau modern.
"Nid yn unig y bydd y buddsoddiad yn dda i drigolion Powys ond i economi'r sir, ac mae'r cabinet yn ymrwymo i sicrhau bod y datblygiadau'n defnyddio neu'n cefnogi crefftwyr Powys lle'n bosibl."
Yr argymhelliad yw bod Cabinet y cyngor yn cymeradwyo Cynllun Busnes Tri deg mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai 2020-2021. Mae'r Cynllun yn dangos sut fydd y cyngor yn cadw ac yn gwella'i rôl fel y darparwr mwyaf o gartrefi cymdeithasol yn y sir. Ymysg y rhaglenni i'w cymeradwyo mae:
•Powys Werdd - i wella effeithlonrwydd tanwydd, lleihau tlodi tanwydd ac adeiladu sylfaen gadarn i'r Cyngor gyfrannu at gynigion Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio cartrefi ar draws Cymru: £15,830,000 dros y bum mlynedd nesaf.
•Addas am Oes - i wella tai'r Cyngor fel eu bod yn fwy addas i anghenion pobl hŷn a'r rhai hynny sydd ag anghenion iechyd sy'n amharu neu'n cael effaith andwyol ar eu symudedd: £12,650,000 dros y bum mlynedd nesaf.
•Caru'ch Cynefin - gwneud cartrefi a stadau sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor yn llefydd y bydd pobl yn gallu mwynhau eu bywydau a gwella lles ein trigolion: £12,800,000 dros y bum mlynedd nesaf.
Yn 2020-2021, bydd £600,000 hefyd yn cael ei fuddsoddi i newid y cyfarpar mae'r tenantiaid hynny sy'n tanysgrifio i system larwm gymunedol Llinell Ofal 24/7 y Cyngor yn eu defnyddio.
Bydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad ar ddydd Mawrth 3 Mawrth.