Cynllun Ysgol Newydd gam yn nes
Chwefror 21 2020
Gallai cynlluniau cyffrous ar gyfer ysgol arbennig newydd gwerth £22m yng ngogledd Powys ddod gam yn nesa os yw'r Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno'r cynlluniau i Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu codi adeilad newydd i Ysgol Cedewain, ac wedi paratoi Achos Amlinellol Strategol (SOC), a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth 3 Mawrth.
Os cymeradwyir y SOC, caiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i geisio'u cymeradwyaeth.
Bydd y Cabinet yn cael gwybod bod y cyllid sy'n ofynnol ar gyfer yr ysgol newydd bron yn £22.7m, gyda 75% yn dod o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Byddai'r cyngor yn cyfrannu'r 25% sy'n weddill.
Fel rhan o'r cynlluniau, bydd gan Ysgol newydd Cedewain gyfleusterau pwrpasol gyda'r diweddaraf, gan gynnwys pwyll therapi dŵr, ystafelloedd y synhwyrau a ffisiotherapi, a gardd, yn ogystal â chaffi cymunedol.
Dywedodd y Cyng. Phyl Davies, Aelod Portffolio'r Cabinet dros Addysg: "Un o'n blaenoriaethau yw darparu campws arloesol gyda'r diweddaraf i ddisodli hen adeiladau Ysgol Cedewain, sydd mewn cyflwr gwael dros ben a heb fod yn addas i'r diben.
"Os cymeradwya'r Cabinet a Llywodraeth Cymru'r Achos Amlinellol Strategol, byddai hyn yn fuddsoddiad anferthol yn ein seilwaith ysgolion.
"Fel rhan o'n Gweledigaeth 2025, rydym yn ymroddedig i ddarparu cyfleusterau gyda'r gorau yn y byd, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Mae ein cynllun ar gyfer Ysgol Cedewain yn dangos yr ymrwymiad yma."