Beiciwr o Fri i ymddangos yng Ngŵyl Gyrfaoedd Powys

25 Chwefror 2020
Bydd yr awdur a'r beiciwr o fri Emily Chappell yn un o'r siaradwyr gwadd yng Ngŵyl Gyrfaoedd Powys eleni yn Llanelwedd.
Yn gyn-ddisgybl o ysgol uwchradd Llanidloes, Emily oedd y ferch gyflymaf i feicio ar draws Ewrop yn y Ras Trawsgyfandir 2016 ac mae hefyd wedi beicio i Siapan o Gymru. Mae Emily newydd gyhoeddi ei hail lyfr 'Where there's a will'.
Bydd yn trafod y ffordd y mae hi wedi creu gyrfa fel awdur a beiciwr gyda Tim Davies, beiciwr o Bowys sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad. Bu Emily hefyd yn gweithio am gyfnod fel negesydd ar gefn beic yn Llundain. A hyn oedd testun ei llyfr cyntaf 'What Goes Around'.
Mae pedwaredd Ŵyl Gyrfaoedd Powys yn cael ei chynnal ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Mercher, 4 Mawrth a bydd yn cynnwys dros 100 o arddangoswyr yn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ym Mhowys.
Bydd myfyrwyr o ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig a champysau addysg bellach ym Mhowys yn teithio i'r ŵyl. Mae dros 3,000 o fyfyrwyr wedi mynychu'r ŵyl yn ystod blynyddoedd blaenorol.
Mae'r ŵyl eleni yn cael ei noddi gan:
- Grŵp Colegau NPTC
- Hyfforddiant Cambrian
- Cyfreithwyr Lanyon Bowdler
- Wipak
- Penseiri Hughes
- Y Brifysgol Agored
- Abercare
- Gyrfa Cymru
- WestEnt audio visual
- Cyngor Sir Powys
Mae'r digwyddiad am ddim i arddangoswyr a phobl ifanc sy'n mynychu ond nid yw'n agored i'r cyhoedd, ond i fyfyrwyr yn unig.