Stryd Middleton i gael ei adnewyddu?

25 Chwefror 2020
Gallai prif stryd siopa Llandrindod fod yn ganolbwynt i gynllun adnewyddu uchelgeisiol i wneud y stryd yn fwy deniadol i siopwyr, yn enwedig cerddwyr a seiclwyr.
Mae Stryd Middleton, sef prif ardal siopa'r dref, wedi cael trafferth darparu ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a thraffig, ac mae cynllun newydd yn cael ei ddatblygu yn awr gyda chais am help y gymuned gyda'r dyluniad.
Dywedodd Heulwen Hulme, Aelod y Cabinet dros faterion Priffyrdd: "Mae gennym gyfle gwirioneddol i gynnal gwaith adnewyddu cyffrous ar Stryd Middleton a'i wneud yn lle mwy deniadol i ymweld ag o. Byddai hyn yn annog ymwelwyr i aros yn hirach a gwario mwy arian mewn siopau lleol."
"Mae gennym ychydig o syniad ar sut y gallai'r stryd edrych eisoes ond rydym angen pobl leol i gymryd rhan a chael dweud eu dweud. Mae prosiectau cymunedol fel yr un yma yn dibynnu ar gynnwys pobl leol o ddifrif ac rydym yn annog trigolion i gymryd rhan."
"Os yw'n llwyddiannus, nid oes sicrwydd y bydd y cynlluniau'n cael eu hariannu. Gallem weld gwaith adnewyddu radical ar y stryd sy'n cysylltu'r orsaf a'r gyfnewidfa bws newydd gydag ardal Lakeside y dref. Y gobaith yw y byddai hyn yn cael ei ariannu gan Gronfa Drafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru, gyda'r ffocws ar bobl, nid ceir."
Fe fyddwn yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor Tref Llandrindod a busnesau lleol, ond bydd dyluniad terfynol y prosiect yn dibynnu'n helaeth ar safbwyntiau pobl leol. Er mwyn casglu safbwyntiau lleol, mae'r Cyngor Sir yn cynllunio sesiynau ymgysylltu yn y dref y mis nesaf.
Bydd manylion y cyfarfodydd ynghyd â darluniadau o syniadau er mwyn i drigolion eu gweld a gwneud sylwadau arnynt yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd sydd i ddod ynghyd â manylion ar sut i gymryd rhan.