Sesiwn taro heibio recriwtio yn Llandrindod
Chwefror 27, 2020
Mae sesiwn galw heibio ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn rôl gwerth chweil sef cyflwyno gofal yn cael ei gynnal yn Llandrindod wythnos nesaf.
Bydd staff y Cyngor yn yr Ystafell Wydr o fewn Canolfan Gynadledda'r Pafiliwn ar ddydd Gwener 6 Mawrth, rhwng 2pm a 5pm.
Bydd cynrychiolwyr o Ofal Cymdeithasol Cymru, y darparwr gofal Hafal Crossroadsynghyd â chynrychiolwyr o'r Llinell Uniongyrchol, yn ymuno â staff o'r cyngor, er mwyn gallu siarad am y gefnogaeth y gallant ei chynnig i bobl sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol.
Mae'r gwaith yn rhan o ymgyrch i annog mwy o bobl i mewn i'r sector gofal cymdeithasol led led Cymru, yn cynnwys derbyn rolau fel Gweithiwr Gofal Cartref a Chynorthwyydd Personol. Mae'r sefydliad cenedlaethol, Gofal Cymdeithasol Cymru, yn amcangyfrif y bydd angen tua 20,000 yn fwy o bobl i weithio o fewn y sector gofal yng Nghymru erbyn 2030.
Y Cynghorydd Myfanwy Alexander yw Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion. Dywedodd: "Rydym wedi dod i Landrindod i chwilio am bobl sydd wirioneddol eisiau gwneud gwahaniaeth ac eisiau cyfrannu tuag at eu cymunedau. Gall y swyddi hyn fod yn hyblyg i helpu gyda'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gallent fod yn gam cyntaf tuag at yrfa o fewn y sector gyda rhagolygon gwych. Dewch heibio a siarad gyda ni: dydych chi byth yn gwybod, fe allech ddod yn arwr i rywun."
Esboniodd fod y dref wedi'i dewis fel lleoliad ar gyfer y sesiwn galw heibio gan mai'r rhan hon o Bowys yw un o'r ardaloedd lle mae angen am ragor o weithwyr gofal cartref.
Mae rolau gweithwyr gofal a chynorthwywyr personol yn yrfaoedd hyblyg a fyddai'n gweddu i rieni/neiniau/ teidiau neu warcheidwaid sydd angen gweithio o amgylch eu cyfrifoldebau gofal plant, er enghraifft, gweithio y tu allan i amseroedd 'teithiau ysgol'. Gall y rolau fod yn llawn neu ran amser ac mae nifer o gyfleoedd am gynyddu gyrfa o fewn y sector hwn.
Mae cynorthwywyr personol yn cael eu cyflogi gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac yn cefnogi gydag ystod eang o dasgau a fydd yn helpu i gynyddu annibyniaeth unigolyn ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd eu bywydau.
Mae nifer o weithwyr gofal ym Mhowys yn cael eu cyflogi gan asiantaethau allanol - megis Hafal Crossroads -er bod rhai yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Gyngor Sir Powys ei hunan.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer yr asiantaethau - ynghyd â manylion am swyddi'r cyngor - trwy https://cy.powys.gov.uk/article/7723/Gweithio-fel-Gweithiwr-Gofal-Cartref