Galw am Aelodau Panel Apeliadau Derbyniadau Ysgol

2 Mawrth 2020
Mae'r Cyngor Sir wedi datgan bod angen gwirfoddolwyr i helpu i benderfynu ar apeliadau gan rieni/gofalwyr ynglŷn â'u cais am le mewn ysgol.
Mae Cyngor Sir Powys eisiau recriwtio pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd a phrofiad i ymuno â'i Banel Apeliadau Derbyniadau Ysgol. Caiff y paneli hyn eu sefydlu i ystyried apeliadau gan rieni/gofalwyr oherwydd bod eu plentyn wedi colli allan ar le mewn ysgol o'u dewis.
Pan wrthodir lle i blentyn mewn ysgol o'i ddewis, mae hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Bydd Aelodau'r panel yn ystyried y rhesymau dros y dewis o'r ysgol gan rieni/gofalwyr, yn ogystal â'r rhesymau pam nad oes lle wedi'i roi i'r plentyn, ac yna gwneud penderfyniad a ddylai'r apêl gael ei chynnal neu ei gwrthod.
Mae pob panel yn cynnwys o leiaf dri o bobl. Bydd hyn yn cynnwys rhywun heb unrhyw brofiad o gael eu cyflogi mewn addysg, gelwir yr aelod yma'n aelod lleyg, a hefyd rhywun sydd â rhywfaint o brofiad fel athro/athrawes neu lywodraethwr.
Bydd clerc wedi'i hyfforddi yn cynghori ar faterion cyfreithiol a gweinyddol. Rhaid i bob un o aelodau'r panel fod yn annibynnol o'r awdurdod, yr ysgol a'r teuluoedd dan sylw.
Caiff apeliadau eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, ond cynhelir y mwyafrif rhwng mis Mai a mis Gorffennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r paneli hyn yn bwysig iawn ac mae'r gwaith mor gwerth chweil.
"Nid oes angen i chi gael gwybodaeth arbenigol nac arbenigedd addysgol. Mae angen pobl sydd â chymysgedd dda o sgiliau a chefndiroedd ac sy'n gallu dod â safbwyntiau a phrofiad gwahanol a syniadau ffres gyda nhw. "
Byddai'r rôl yn addas ar gyfer pobl â sgiliau gwrando rhagorol, yn ogystal â'r gallu i dawelu meddwl pobl ac asesu tystiolaeth i benderfynu ar bob apêl.
Mae rhai o'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn cynnwys:
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da
- Sgiliau llythrennedd a gwrando da
- Gallu aros yn gadarn ac yn ddigynnwrf
- Integriti
- Tegwch
- Y gallu i gyd-dynnu â phobl eraill ac i weithio fel rhan o dîm
- Y gallu i wneud penderfyniadau ar sail deddfwriaeth a chanllawiau cyfredol
- Bod yn barod i gadw'r holl wybodaeth yn gyfrinachol
Byddai'r rôl yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio sgiliau sydd gennych yn barod ac i ddatblygu rhai newydd. Gwahoddir pobl o gefndiroedd mor eang â phosibl i wneud cais.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond mae'n rhaid i chi fod:
- 18 oed neu drosodd
- Ar gael yn ystod y dydd (dydd Llun i ddydd Gwener)
- Yn barod i fynychu cyfarfodydd panel rheolaidd ledled y Sir
- Yn barod i wneud hyfforddiant
Bydd hyfforddiant a chymorth llawn yn cael eu rhoi i sicrhau bod pobl wedi'u harfogi'n llawn i gyflawni'r rôl yn llwyddiannus.
Nid oes tâl ar gyfer y swydd hon, ond bydd unrhyw gostau a threuliau cynhaliaeth rhesymol yn cael eu talu.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl werthfawr hon, ewch i https://cy.powys.gov.uk/swyddi. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul, Mawrth 15, 2020.