Cymeradwyo cynnig i uno ysgolion

3 Mawrth 2020
Bydd dwy o ysgolion Y Drenewydd yn cael eu huno i greu ysgol cyfrwng Saesneg 4-11 ar ôl i Gabinet y cyngor sir gytuno â'r cynnig.
Bydd Cyngor Sir Powys nawr yn uno Ysgol Babanod Ladywell Green ac Ysgol G.G. Hafren i greu'r ysgol newydd.
Clywodd y Cabinet heddiw (dydd Mawrth 3 Mawrth) na chafwyd unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig ar ôl cyhoeddi'r rhybudd statudol ar gyfer y cynigion.
Cymeradwyodd y Cabinet y cynnig, fydd yn gweld yr ysgol newydd yn agor yn 2021 ar safleoedd presennol yr ysgolion.
Bydd yr ysgol newydd yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 oed. Ar hyn o bryd, mae 94 o ddisgyblion yn yr ysgol babanod a 145 yn yr ysgol gynradd.
Dywedodd y Cyng. Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar Faterion Addysg: "Roedd canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd y llynedd yn awgrymu mai'r dewis a ffafriwyd oedd uno Ysgol Babanod Ladywell Green ac Ysgol G.G. Hafren a sefydlu ysgol gynradd newydd ar safleoedd presennol y ddwy ysgol.
"Gan na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i'n cynigion, fe gymeradwyodd y Cabinet yr argymhelliad, fydd yn gweld uno'r ddwy ysgol i greu ysgol gynradd newydd.
"Bydd y cynnig o fudd i'r disgyblion a'r staff dysgu yn yr ysgolion hyn."