Prosiect yn y Drenewydd yn gwella cyfleoedd i bobl ifanc

5 March 2020
Mae prosiect sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Powys i wella cyfleoedd a lleihau anfantais i blant, pobl ifanc a theuluoedd wedi hen ddechrau.
Mae prosiect Plant yn Gyntaf yn y Drenewydd, a ariannwyd gan y Gronfa Gofal Integredig drwy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, wedi treialu'n llwyddiannus gweithio gyda'r gymuned a sefydliadau i gefnogi a gwella'r cyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Fel rhan o'r prosiect, datblygwyd cynllun ynysu cymdeithasol ' Hidden Young Lives ' gan weithio gyda phobl ifanc a gofalwyr i gynhyrchu gwaith celf i gynrychioli bywydau pobl ifanc. Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn Oriel Davies.
Mae rhaglen o weithgareddau ac ymgysylltu hefyd wedi'i datblygu gyda'r nod o leihau nifer y bobl ifanc sy'n dod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol.
Mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y Drenewydd, mae'r prosiect yn darparu digwyddiadau cymdeithasol i blant a phobl ifanc dros wyliau'r ysgol i greu cyfleoedd i gymdeithasu.
Ychwanegodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet ar faterion Pobl ifanc a Diwylliant: "Rwy'n falch dros ben ein bod wedi gallu cyflwyno'r Prosiect Plant yn Gyntaf, 'Newtown Together' i ddarparu cyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd i fod yn rhan o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud amdanynt".
Mae arian ychwanegol wedi cael ei gadarnhau o Raglen Llesiant Gogledd Powys i ddatblygu prosiect yn y Trallwng yn y dyfodol.