Yr Ŵyl Gyrfaoedd yn boblogaidd iawn gyda myfyrwyr Powys

10 Mawrth 2020
Daeth dros 2,500 o fyfyrwyr ynghyd ar Faes y Sioe Frenhinol yr wythnos diwethaf i ymweld ag un o wyliau gyrfaoedd mwyaf y DU.
Cynhaliwyd pedwaredd Ŵyl Gyrfaoedd Powys ddydd Mercher 4 Mawrth yn Llanelwedd, ac mae'r bartneriaeth a drefnodd yr achlysur wedi diolch i bawb a'i mynychodd gan gyfrannu at ei llwyddiant.
Mae Llwybrau Positif Powys, y bartneriaeth sy'n ymrwymedig i ddarparu cyngor gyrfaoedd i bobl ifanc Powys, wedi denu rhyw 100 o gyflogwyr, prifysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant sy'n gyflogwyr ynghyd ag amrediad o sefydliadau eraill i gynnig cipolwg i fyfyrwyr ifanc Powys o ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig a cholegau'r sir ar y cyfleoedd sydd o'u blaenau.
Dywedodd Jackie Parker, Cadeirydd Llwybrau Positif Powys: "Ry'n ni wrth ein bodd fod cymaint o bobl ifanc wedi mynychu'r ŵyl yrfaoedd eleni.
"Roedd yna gymaint i'r bobl ifanc ei weld - o brifysgolion i gyfleoedd gwirfoddoli - ac roedd yna lawer o wybodaeth hefyd ar brentisiaethau, gan gynnwys trafodaeth ar y brif lwyfan ar y pwnc yma.
"Hoffwn i ddiolch yn fawr i'n gwesteion ar y prif lwyfan, gan gynnwys Ben Sheppard sy'n gyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Gwernyfed ac yn gyflwynydd radio Capital FM a chyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Llanidloes sy'n feiciwr ultra ac yn awdures, sef Emily Chappell. Roedd eu cyfraniad hwy wedi gwneud y dyddiad yn un arbennig i'n pobl ifanc.
"Yn olaf, hoffwn ddiolch i'n noddwyr, arddangoswyr, ysgolion a myfyrwyr a ddaeth ynghyd i wneud pedwaredd Gŵyl Gyrfaoedd Powys yn llwyddiant ysgubol."
Noddwyd yr ŵyl eleni gan:
- Grŵp Colegau NPTC
- Cambrian Training
- Lanyon Bowdler Solicitors
- Wipak
- Hughes Architects
- Y Brifysgol Agored
- Abercare
- Gyrfa Cymru
- WestEnt audio visual
- · Cyngor Sir Powys