Byw, gweithio, chwarae ym Mhowys

12 Mawrth 2020
Mae Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cymwys i ymuno â'u timau.
Mae'r gwasanaeth yn gwella'n gyflym ac yn cyflawni deilliannau gwell i blant a phobl ifanc gan ddefnyddio'r Fframwaith Arwyddion Diogelwch. Mae'r gwasanaeth yn cynnig pecyn deniadol i weithwyr cymdeithasol, gyda chefnogaeth a goruchwyliaeth wych.
Bydd tâl atodol o £3,000 sy'n seiliedig ar y farchnad yn cael ei gynnig hefyd i staff newydd a staff presennol o fewn rhai swyddi penodol sy'n anodd eu llenwi. Bydd hyn yn cael ei dalu i weithwyr sydd wedi aros yn eu swyddi am gyfnod o 12 mis.
Ei nodi yw gostwng costau ar staff asiantaeth a denu gweithwyr cymdeithasol parhaol, gan gyflwyno gweithlu mwy cynaliadwy a chysondeb i blant a theuluoedd.
Ychwanegodd y Cyng. Rachel Powell, Aelod o'r Cabinet dros faterion Pobl Ifanc a Diwylliant: "Mae'n rhoi pleser mawr i ni groesawu nifer o weithwyr cymdeithasol gwych i'n gwasanaeth, ond mae nifer o swyddi anodd eu llenwi yn parhau'n wag o fewn y Timau Gofal a Chefnogaeth, Timau Asesu a Thimau Trwy Ofal.
"Rydym yn ymroddedig tuag at gyflwyno'r deilliannau gorau i blant a phobl ifanc ym Mhowys, felly mae'n hanfodol ein bod yn denu ac yn cadw gweithwyr cymdeithasol parhaol".
Os ydych yn edrych am gyfle newydd o fewn gofal cymdeithasol, edrychwch ar ein tudalen swyddi