Telerau ac Amodau - 'Resettlement Passport'
Beth yw'r 'Resettlement Passport'?
Cwrs sgiliau tenantiaeth yw'r 'Resettlement Passport' a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i bobl reoli eu tenantiaethau'n dda. Fe'i ddatblygwyd gan yr elusen 'Local Solutions' ac mae'n cael ei ddefnyddio gan nifer o sefydliadau ar draws y wlad. Mae'r ffurflen ganiatâd hon ar gyfer fersiwn ar-lein y cwrs.
Sut fydd fy manylion personol yn cael eu defnyddio?
Er mwyn eich cofrestru chi ar y cwrs 'Resettlement Passport' ar-lein, bydd angen eich enw a'ch cyfeiriad e-bost ar Gyngor Sir Powys. Defnyddir y wybodaeth fel a ganlyn:
- a) I Gyngor Sir Powys weld faint o'r cwrs rydych wedi'i wneud.
- b) I ail-osod eich cyfrinair os bydd angen, trwy eich e-bostio chi.
- c) Bydd partneriaid TG 'Local Solutions' - Agent Marketing yn gallu cadarnhau pwy ydych chi os byddwch yn cael problemau technegol gyda'r cwrs.
Ar ddechrau'r cwrs, bydd gofyn i chi lenwi holiadur cychwynnol a fydd yn gofyn manylion eich oedran, ethnigrwydd, anableddau a ffactorau risg posibl (megis wedi bod yn ddigartref neu broblemau alcohol neu gyffuriau blaenorol). Ni fydd y data hwn yn cynnwys eich manylion adnabod (h.y. eich enw a manylion cyswllt) wrth ei rannu â 'Local Solutions' er mwyn llunio adroddiadau ar effaith y cwrs.
Cedwir y data am 5 mlynedd at ddibenion adrodd cyn ei ddinistrio.
A fydd trydydd parti'n gallu gweld y data?
Bydd Agent Marketing - partner T.G. 'Local Solutions' yn gallu cyrraedd y data er mwyn datrys anawsterau technegol a hefyd Office 365 er mwyn llunio adroddiadau. Am ddolenni i'w hysbysiadau preifatrwydd a mwy o wybodaeth ar le cedwir eich data, darllenwch hysbysiad preifatrwydd 'Resettlement Passport' sydd ar wefan 'Local Solutions' - www.localsolutions.org.uk
Sut alla'i dynnu fy nghaniatâd yn ôl?
I dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd, siaradwch â'r Swyddog Strategaeth a Pholisi Tai, Cyngor Sir Powys. Heb eich caniatâd, ni fydd yn bosibl gwneud y cwrs.
Rwy'n caniatáu i gael fy nghofrestru ar-lein ar gyfer y cwrs 'Resettlement Passport' ac yn rhoi hawl i ddefnyddio fy manylion personol fel hyn.