Cwrs Biker Down ar gael i feicwyr modur

16 Mawrth 2020
Mae cyfle i feicwyr modur ym Mhowys ddod yn feicwyr mwy diogel, diolch i gwrs diogelwch ar y ffyrdd sydd ar gael erbyn hyn.
Diolch i arian Llywodraeth Cymru, darperir a chyflwynir y cwrs Biker Down gan Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae'r cwrs tair awr yn trafod pynciau megis rheoli safle damwain, cymorth cyntaf a thynnu helmed mewn argyfwng a'r wyddoniaeth o gael eich gweld.
Cynhelir y cwrs yn Llandrindod ar ddydd Mawrth, 14 Ebrill am 6pm.
Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor ar gael hefyd i gyflwyno'r cwrs Biker Down i glybiau beicwyr modur sy'n bodoli eisoes.
Mae'r uned hefyd yn sicrhau fod y cynllun 'Cerdyn Crash' ar gael i unrhyw feiciwr modur sy'n defnyddio ffyrdd y sir. Mae'r cerdyn yn cynnwys manylion personol y beiciwr modur ac fe'i lleolir o fewn leinin eu helmed. Gellir defnyddio'r cerdyn gan y gwasanaethau brys petai'r beiciwr byth mewn damwain.
Dywedodd y Cyng. Heulwen Hulme, Aelod o'r Cabinet dros faterion yr Amgylchedd: "Mae sicrhau fod ein ffyrdd yn ddiogel yn arbennig o bwysig i'n sir. Fe fyddwn yn annog beicwyr modur i fanteisio ar y cynlluniau gwych hyn.
"Mae'r cyrsiau hyn mor bwysig gan eu bod yn cyflwyno sgiliau allweddol a allai helpu i achub bywydau yn y pendraw."
Am wybodaeth ar unrhyw un o'r cynlluniau hyn neu i gadw lle ar y cwrs, cysylltwch â Gareth Evans, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor ar 01597 826704 neu anfonwch e-bost at gareth.evans@powys.gov.uk.