Rhaglen Wella Adeiladau Ysgol

17 Mawrth 2020
Bydd ysgolion Powys yn derbyn buddsoddiad o £3m yn y flwyddyn ariannol newydd fel rhan o gynllun gwella sylweddol, os bydd Cabinet y cyngor sir yn rhoi sêl bendith i'r argymhelliad.
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir Powys gymeradwyo cronfa wella o £3m er mwyn gwneud cyfres o welliannau i ysgolion a lleoliadau cyn oed ysgol er mwyn sicrhau fod y cyfleusterau'n addas i'r diben.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o Raglen Wella Sylweddol y Gwasanaeth Ysgolion. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar wella cyflwr adeiladau ysgol, diogelu, gwelliannau o ran ynni, gwaith iechyd a diogelwch hanfodol a gwella ardaloedd tu allan i barhau i gyflwyno addysg a'r cwricwlwm.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar Addysg ac Eiddo: "Mae'r Rhaglen Wella Sylweddol yn arwydd o fuddsoddiad enfawr gan y cyngor i sicrhau bod ein hysgolion a'r lleoliadau cyn oed ysgol yn fannau diogel, addas i'r diben i'n dysgwyr.
"Ar ddechrau'r daith i wella addysg, mae'n bwysig fod ein rhaglen yn hyblyg ac yn gallu addasu i adlewyrchu ein cynlluniau a fydd yn dod i'r amlwg dros y 12 mis nesaf ar gyfer addysg."
Bydd y Cabinet yn trafod yr adroddiad ddydd Mawrth, 24 Mawrth.