Bwletin Coronafeirws (COVID-19) Wythnosol
26 Chwefror 2021
Ffigyrau Covid-19
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ar 24 Chwefror mai nifer yr achosion o'r coronafeirws wedi'u cadarnhau yng Nghymru yw 202,872. Cyfanswm yr achosion ym Mhowys ar 24 Chwefror yw 3,916.
Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar nifer y rhai fu farw ym Mhowys yn llwyr neu'n rhannol o ganlyniad i COVID-19, wedi'u cofrestru hyd at 20 Chwefror oedd 228, cynnydd o wyth ar yr wythnos flaenorol - 71 mewn cartrefi gofal, 11 gartref, un mewn hosbis a 145 mewn ysbytai.
Diweddariadau Llywodraeth Cymru
Ailagor Cymru yn ddiogel
Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd y rhaglen brofi yn cael ei ehangu, a brechiadau'n cael eu rhoi'n gyflymach er mwyn helpu Cymru i ailagor yn ddiogel.
https://llyw.cymru/hwb-ir-rhaglenni-brechu-phrofi-er-mwyn-helpu-i-ailagor-cymru-yn-ddiogel
Cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar bobl gydag anabledd dysgu
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi nodi y dylid estyn gwahoddiad i bobl gydag anabledd dysgu difrifol/dwys ac unigolion â sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol, neu unrhyw salwch meddwl sy'n achosi nam difrifol ar weithrediad, i gael y brechlyn fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6.
Mae nifer yr unigolion yng Nghymru sydd wedi derbyn y dos cyntaf o frechlyn COVID-19 ar 24 Chwefror yw 889,270. Mae nifer y bobl ym Mhowys sydd wedi derbyn y dos cyntaf dros 47,000.
- Rheoliadau coronafeirws - cwestiynau cyffredin
- Cwestiynau cyson ar addysg bellach ac uwch
- Datganiad ysgrifenedig: Cyfarpar Diogelu Personol
- Cwestiynau cyson ar rôl ysgolion dros y pandemig
Mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru - https://llyw.cymru/coronafeirws
I weld manylion y camau allweddol blaenorol ewch i: Coronafeirws (COVID-19) - Cyngor sir Powys camau allweddol