Bwletin Coronafeirws (COVID-19) Wythnosol
15 Ionawr 2021
Ffigyrau Covid-19
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ar 13 Ionawr mai nifer yr achosion o'r coronafeirws wedi'u cadarnhau yng Nghymru yw 176,056. Cyfanswm yr achosion ym Mhowys ar 30 Ionawr yw 2,969.
Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar nifer y rhai fu farw ym Mhowys yn llwyr neu'n rhannol o ganlyniad i COVID-19, wedi'u cofrestru hyd at 9 Ionawr oedd 159.
Diweddariadau Cyngor Sir Powys
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod busnesau ym Mhowys wedi derbyn bron i £6 miliwn mewn grantiau dros yr wythnosau diwethaf.
Mae tua 1,800 o fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden, manwerthu a thwristiaeth wedi derbyn hwb ariannol fel rhan o Gronfa Llywodraeth Cymru i Fusnesau dan Gyfyngiadau.
Diweddariadau Llywodraeth Cymru
- Mae llythyrau am gynlluniau brechu COVID-19 Llywodraeth Cymru yn cyrraedd drysau ffrynt pob aelwyd yng Nghymru.
- Bydd y llythyron yn cael eu hanfon i bob aelwyd yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf a byddant yn cael eu dosbarthu gan Awdurdodau Lleol ar ran Llywodraeth Cymru. https://llyw.cymru/pob-cartref-i-gael-gwybodaeth-am-y-brechlyn
- Agorodd y Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £180m ar gyfer ceisiadau ddydd Mercher (13 Ionawr). Mae'r gronfa'n benodol i gefnogi busnesau yn y sector twristiaeth, lletygarwch a hamdden wedi'u heffeithio gan gyfyngiadau coronafeirws.
- https://llyw.cymru/grant-180-miliwn-ar-gyfer-y-sector-lletygarwch-hamdden-thwristiaeth-yn-agor-yr-wythnos-hon
- Bydd y gronfa ar agor am bythefnos neu tan i'r gyllid gael ei ymrwymo'n llawn.
- Gwiriwr cymhwysedd
- Rheoliadau coronafeirws - cwestiynau cyffredin
- Cwestiynau cyson ar addysg bellach ac uwch
- Datganiad ysgrifenedig: Cyfarpar Diogelu Personol
- Cwestiynau cyson ar rôl ysgolion dros y pandemig
Mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru - https://llyw.cymru/coronafeirws
I weld manylion y camau allweddol blaenorol ewch i: Coronafeirws (COVID-19) - Cyngor sir Powys camau allweddol