Annog trigolion i helpu'r cyngor

18 Mawrth 2020
Gofynnir i drigolion Powys weithio gyda'r cyngor sir wrth iddo ymateb i'r argyfwng Coronafeirws.
Mae'r cyngor sir yn dilyn cyngor Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn gofyn i drigolion sydd angen cysylltu â'r cyngor i wneud hynny dros y ffôn, yr ap, e-bost neu'r wefan yn hytrach na mynd i swyddfeydd y cyngor.
"Bydd adeiladau cyngor Powys yn parhau i fod ar agor ond rydym yn annog trigolion sydd angen cysylltu â ni i ddefnyddio cyfleusterau ar-lein neu dros y ffôn ac osgoi cyswllt wyneb yn wyneb i osgoi ymledu'r feirws yn y gymuned," dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris.
"Bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod â gwyliau'r Pasg ymlaen a chau ysgolion erbyn dydd Gwener yn cael effaith sylweddol ar drigolion. O'r wythnos nesaf bydd pwrpas newydd i'n hysgolion ni i helpu'r rhai sydd mewn angen mwyaf, gan gynnwys pobl iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gorfod ymateb ar unwaith i'r argyfwng coronafeirws.
"Rydym wedi rhoi polisi gweithio o adref ar waith i geisio osgoi ymledu'r feirws yn y gymuned. Mae hyn yn golygu bod llai o staff yn ein hadeiladau ni i ddelio ag ymholiadau, ond gallwn ddelio â'r rhan fwyaf o bethau dros y ffôn neu ar y wefan ac e-bost. Rydym yn cynghori staff i beidio ymweld â chartrefi dros y cyfnod hwn heblaw ei fod yn hanfodol, ond lle mae angen gwneud hynny, byddan nhw'n cysylltu â thrigolion o flaen llaw i sicrhau nad oes neb yn hunanynysu a'i fod yn bosibl galw. Er eu bod dan bwysau, mae ein gweithwyr gofal yn parhau i gynnig gwasanaethau tyngedfennol yng nghartrefi pobl.
"Ar hyn o bryd mae ein staff yn casglu sbwriel a gwastraff ailgylchu fel arfer, ond rydym yn gofyn i drigolion sy'n hunanynysu i ddilyn canllawiau iechyd a rhoi eu gwastraff personol (megis hancesi papur a chlytiau) mewn bagiau dwbl a'i gadw'n ddiogel yn y tŷ am 72 awr cyn eu rhoi yn y bin ar olwynion neu'r sachau porffor i'w casglu fel arfer. Nid ydym yn rhagweld y bydd angen gwneud trefniadau casglu eraill.
"Mae llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn parhau i fod ar agor, ond gan mai'r cyngor cenedlaethol yw osgoi cymdeithasu, rydym wedi canslo pob grŵp neu gyfarfod sy'n cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd. Mae hyn yn sefyllfa hollol newydd i ni ac wrth i bethau newid, fe wnawn ddiweddaru ein trigolion trwy'r wefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol a'r wasg leol.
"Mae'r Grŵp Cydlynu Strategol wedi penderfynu rhoi Cynlluniau Parhad Busnes y cyngor ar waith sy'n golygu y bydd gwaith y cyngor nad yw'n dyngedfennol yn cael ei ohirio dros yr wythnosau nesaf er mwyn gallu canolbwyntio ar weithgareddau hollbwysig ac i symud a hyfforddi staff i gyflawni dyletswyddau pwysig. Dyma ddechrau'r broses a dros y dyddiau nesaf, cewch glywed pa weithgareddau fydd yn cael eu gohirio a phryd.
"Dylech wrando ar ganllawiau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddogion iechyd eraill i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Mae'n debygol y bydd hyn i gyd yn amharu ar wasanaethau'r cyngor yn y dyfodol a gofynnwn i drigolion a gwasanaethau i fod yn amyneddgar," ychwanegodd.
Dolenni am wybodaeth bellach: