Pellter cymdeithasol

23 Mawrth 2020
Bydd meysydd chwarae a pharciau Cyngor Sir Powys yn cau heddiw i atgyfnerthu rheolau cadw pellter cymdeithasol ac i osgoi lledaenu'r Covid19.
Mae llywodraethau cenedlaethol yn poeni fwy fwy am y risg i iechyd y cyhoedd o'r cyhoedd yn methu cadw pellter cymdeithasol mewn mannau agored - fel y clywyd gan y Prif Weinidog a Phrif Weinidog Cymru dros y penwythnos.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gynghorau Cymru adolygu eu mannau agored lleol i geisio mynd i'r afael â'r pandemig.
Mae Powys, a chynghorau eraill ar draws Cymru wedi cymryd y penderfyniad - er budd iechyd y cyhoedd - i gau'r meysydd chwarae caeedig i blant a pharciau o dan ei reolaeth, o ddydd Llun 23 Mawrth tan i chi glywed ymhellach. Mae'n annog cynghorau tref a chymuned y sir i wneud yr un fath.
Bydd y 58 o feysydd chwarae a pharciau dan reolaeth y cyngor yn cael eu cloi a'u diogelu o heddiw ymlaen (dydd Llun 23 Mawrth) - gan godi arwyddion - tan fydd y sefyllfa'n newid.
Dywedodd Ychwanegodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet ar faterion Pobl ifanc a Diwylliant: "Er gwaethaf ceisiadau gan lywodraeth cenedlaethol i drigolion osgoi cyswllt agos â'i gilydd i atal y Coronafeirws rhag ymledu, mae nifer yn parhau i gymdeithasu. I atgyfnerthu'r neges fod cadw pellter cymdeithasol yn arf bwysig yn y frwydr i arafu hynt y clefyd, rydym heddiw'n cau ein parciau a'n meysydd chwarae ac yn gofyn i gynghorau cymuned wneud yr un fath.
"Mae cadw pellter cymdeithasol yn arf bwysig yn y frwydr yn erbyn y clefyd ac er ei fod yn anodd, mae'n rhaid gwrando ar yr arbenigwyr. Mae Cyngor Sir Powys yn apelio am eich cydweithrediad. Peidiwch â cheisio mynd mewn i'r mannau hyn fydd wedi'u cloi. Rydym yn dilyn cyngor y Llywodraethau cenedlaethol wrth orfod gwneud hyn ac ni fyddem yn gwneud hyn os na fyddai perygl enbyd i fywyd."